Meithrin Cysylltiadau a Chefnogi Teuluoedd
“Mae gwybod bod pethau am ddim yn tynnu’r pwysau i ffwrdd. Gall pobl ddod i fwynhau eu hunain. Dyma’u lle ar gyfer hynny.”
Mae Canolfan Deuluol Tregaron yn wasanaeth mynediad agored croesawgar sy’n ymroddedig i gefnogi teuluoedd drwy hyfforddiant, cefnogaeth a chyfleoedd i feithrin cysylltiadau ystyrlon.
Diolch i gefnogaeth Cronfa i Gymru, mae Canolfan Deuluol Tregaron wedi llwyddo i ehangu i ateb y galw cynyddol am eu gwasanaethau. Helpodd yr arian i dalu costau craidd hanfodol, gan gynnwys rhentu ystafell hyfforddi, lle storio, a neuadd newydd, fwy ar gyfer y nifer cynyddol o ymwelwyr.
Dywedodd Karli, llefarydd ar ran y sefydliad:
“Fe ddechreuon ni mewn lle llai ond wedyn fe wnaethon ni dyfu o 30 teulu ar ein llyfrau i gael dros 120. Felly, roedd yn rhaid i ni symud. Mae gennym deuluoedd newydd drwy’r amser. Mae’r neuadd hon rydyn ni’n ei defnyddio nawr mor dda.”
Mae’r ganolfan yn cynnig ystod eang o weithgareddau a gwasanaethau wedi’u teilwra i blant, rhieni, neiniau a theidiau, a’r gymuned ehangach. O sesiynau hyfforddi ymarferol i ddigwyddiadau cymdeithasol a grwpiau cymorth, mae Canolfan Deuluol Tregaron yn parhau i fod yn gonglfaen i deuluoedd sy’n chwilio am gysylltiad, cefnogaeth a grymuso.
“Ni’n agor lan i’r gymuned gyfan bob wythnos, jyst fel bod pobl yn gallu cael pryd o fwyd poeth, a phwdin, te a choffi… Rydym yn cynnal sesiynau crefft. Rydyn ni wedi cael rhywun yn gwneud dosbarthiadau dawns gyda’r rhai bach. Daeth ag offerynnau i’w mwynhau. Mae gennym sesiynau chwarae yn y parc. Sesiynau cerdded a siarad. Rydyn ni’n gwneud tripiau yn ystod gwyliau’r ysgol, fel bod plant yn gallu bod yn yr awyr agored ac yn dysgu pethau newydd. Rydyn ni’n gwneud dyddiau llesiant hefyd. Mae menyw yn dod i wneud celf a chrefft gyda rhieni a neiniau a theidiau. Mae plant yn cymryd rhan os ydyn nhw eisiau. Ond mae’r dyddiau hynny yr un mor bwysig â dod o hyd i ffyrdd i rieni ymlacio.”