Pryd o fwyd gyda cyfeillion yn yr eglwys
“Roedd un fenyw ddi-briod o’r enw Barbra yn byw yn y pentref. Nid oedd ganddi unrhyw deulu a oedd dal yn fyw, ac eithrio cefnder/cyfnither bell. Roedd hi’n poeni am ei hiechyd ac roedd hi’n ymwybodol ei bod yn mynd yn anghofus. Anaml iawn y byddai’n mynd allan ac roedd hi bob amser yn edrych yn drist ac yn isel. Dechreuodd ddod i gael cinio ac yna dechreuodd gymryd mwy o ran drwy helpu i osod y byrddau ac ati, ac roedd yn amlwg ei bod hi’n hapusach o lawer.”
Mae Eglwys Dewi Sant yn darparu gwasanaethau addoli Cristnogol ym mhentref Capeli Dewi ac mae’n ymgymryd â gweithgareddau a fydd yn diwallu anghenion y gymuned leol. Dyfarnwyd grant o £1,066 i’r eglwys er mwyn ei helpu i ddarparu cinio cymunedol yn neuadd eglwys y pentref bob mis ar gyfer unrhyw un yn y pentref a’r ardal leol, ond yn enwedig ar gyfer pobl hŷn neu’r rhai sy’n byw ar eu pen eu hunain.
Dechreuodd y clwb cinio ym mis Chwefror 2017 ac mewn dim, roedd yn ddigwyddiad poblogaidd. Wrth i’r niferoedd cynyddu, roedd hi’n ddigon o her i wirfoddolwyr yr eglwys baratoi cinio gyda chyfleusterau presennol neuadd yr eglwys, felly, defnyddiwyd y grant i brynu’r cyfarpar roedd ei angen er mwyn darparu ar gyfer y digwyddiad misol hwn.
Mae cinio misol yr eglwys wedi darparu man cyfarfod rheolaidd i’r gymuned ddod at ei gilydd a chymdeithasu dros bryd o fwyd mewn amgylchedd hamddenol ac anffurfiol sy’n addas ar gyfer teuluoedd. Mae’n rhoi’r cyfle i bobl gyfarfod â hen ffrindiau ac yn rhoi rheswm i’r rhai sy’n byw ar eu pen eu hunain i fynd allan a gwneud ffrindiau newydd.
Mae’r cinio wir wedi helpu i fynd i’r afael ag ynysu ac unigrwydd. Mae’r rhai hynny nad ydynt yn gallu mynychu wir yn gwerthfawrogi galwad bob mis i weld sut maent yn teimlo a ph’un a ydynt yn gallu dod. Cafwyd rhai achosion lle y cafodd prydau eu darparu i’r bobl nad oeddent yn ddigon iach i deithio i’r neuadd.