Cronfa Gwaddol Dr Dewi Davies
Ceredigion, I gyd, a Sir Gar
Mae’r rhaglen yma ar gau i geisiadau
Mae Cronfa Waddol Dr Dewi Davies yn rhoi cymorth i’r canlynol:
- Grwpiau a sefydliadau sy’n gweithio i fynd i’r afael â thlodi ac ynysu gan gynnwys tlodi tanwydd a phroblemau gwledig
- Prosiectau sy’n gweithio gyda’r genhedlaeth hŷn i leihau unigrwydd
- Grwpiau a sefydliadau sy’n cefnogi’r gwaith o hyrwyddo a dysgu’r Iaith Gymraeg, Diwylliant Cymreig a Threftadaeth Gymreig
- Magu hyder ac ehangu gorwelion unigolion nad oes ganddynt lawer o adnoddau
- Unigolion talentog er mwyn iddynt ddilyn eu dyheadau e.e. bwrsariaethau, cyfarpar, offerynnau
Yn 2020 cyhoeddodd Sefydliad Cymunedol Cymru ganfyddiadau ymchwil a wnaed gyda mwy na 100 o grwpiau cymunedol ar draws Cymru. Amlygodd ein hadroddiad Yn Uchel ac yn Groch fod elusennau a grwpiau cymunedol yng Nghymru eisiau i arianwyr roi blaenoriaeth i arian craidd ac i bartneriaethau tymor hirach. Rydym wedi defnyddio yr hyn a ddysgwyd o’r adroddiad i ffurfio meini prawf Cronfa Waddol Dr Dewi Davies. Erbyn hyn bydd y gronfa’n cefnogi costau craidd sefydliadau sy’n gweithio mewn meysydd cymwys ac yn cefnogi’r themâu a amlygwyd uchod.
Rydym yn cydnabod pa mor bwysig yw bod grwpiau’n gallu cynllunio ar gyfer y dyfodol, a bod gwybod bod arian ar gael yn gallu rhoi hyder a sicrwydd i chi i ddatblygu’ch prosiect yn y tymor hir.
Mae Cronfa Waddol Dr Dewi Davies yn cynnig cyfle i grwpiau ymgeisio am arian am sawl blwyddyn,hyd at dair blynedd, ond bydd hefyd yn dal i gynnig arian ar gyfer prosiectau un flwyddyn.Rydym yn gobeithio gallu dyrannu o leiaf un grant tair blynedd y flwyddyn. I gael eich ystyried ar gyfer grant tair blynedd, dylech gwblhau’r adran ychwanegol ar y ffurflen gais i ddangos sut rydych yn bwriadu datblygu’ch prosiect dros y cyfnod ariannu yr ymgeisir amdano. D.S. Bydd eich cais yn dal i gael ei ystyried ar gyfer cyllid un flwyddyn os nad ydych yn llwyddiannus am grant tair blynedd.
Y grantiau sydd ar gael
- Gall unigolion, grwpiau cymunedol, elusennau a phrosiectau lleol wneud cais am grantiau rhwng £500 a £5,000
- Lle y ceir achos eithriadol ar gyfer cymorth, gellir dyfarnu grantiau o hyd at £10,000.
- Rhaid i’r cais ddangos angen clir am gymorth ariannol, caledi ariannol neu anghenion cymorth ychwanegol
- Darllenwch drwy’r adrannau ar y Pecyn Cymorth Grantiau cyn gwneud cais – Grants Toolkit – Community Foundation Wales
Pwy all wneud cais?
Unigolion, grwpiau a sefydliadau sy’n gweithio gyda phobl sy’n byw yn yr Ardaloedd Allbwn Uwch (LSOAs) haen isaf fel y’u gelwir yn fwy cyffredin:
Yn Sir Gaerfyrddin
- Cenarth
- Cynwyl Elfed 1
- Llanfihangel ar Arth 1 a 2
- Llangeler
- Llanybydder 1 a 2
Yng Ngheredigion
- Aberporth 1 a 2
- Beulah
- Capel Dewi
- Aberteifi Mwldan
- Aberteifi Rhyd y Fuwch
- Aberteifi Teifi, Llandyfriog
- Tref Llandysul
- Llanwenog
- Penbryn, Pen-parc 1 a 2
- Troedyraur
Mae’r gronfa’n cynnwys Trefi Aberteifi – Aberporth, Newcastle Emlyn, Llandysul a Llanybydder ynghyd â’r pentrefi cyfagos.
Sut i wneud cais?
Gwnewch yn siŵr eich bod yn darllen ac yn deall meini prawf y gronfa cyn cwblhau eich cais.

Pryd o fwyd gyda cyfeillion yn yr eglwys
Darllen mwyGwnewch yn siŵr eich bod yn gymwys
Darllenwch y testun canlynol i sicrhau eich bod yn gymwys cyn dechrau'ch cais: