Trawsnewid bywydau ifanc
“Mae’r prosiect yma wedi achub fy mywyd. O ddifrif, rwy’n credu y byddwn i yn y carchar neu wedi cael fy nhrywanu pe bawn i’n cario ymlaen y llwybr yr oeddwn arni.”
Mae Silk Futures CIC yn cefnogi pobl ifanc sy’n wynebu rhwystrau sylweddol yn eu bywydau. Gan ddarparu mynediad at greadigrwydd, yn enwedig mewn recordio a pherfformio cerddoriaeth, mae Silk Futures CIC yn cynnig lle diogel a meithringar lle gall unigolion ifanc ffynnu.
Diolch i grant gan Gronfa i Gymru, mae Silk Futures CIC wedi gallu cynnal sesiynau cerddorol wythnosol. Nid yw’r sesiynau hyn yn ymwneud â creu cerddoriaeth yn unig. Mae nhw’n ymwneud â chreu cyfleoedd. Mae cyfranogwyr yn cymryd rhan mewn ysgrifennu geiriau, archwilio genres cerddorol newydd, a rhwydweithio gyda chyfoedion a mentoriaid. Mae’r gweithgareddau hyn yn magu hyder, yn meithrin gwaith tîm, ac yn arfogi pobl ifanc â sgiliau newydd sy’n ymestyn ymhell y tu hwnt i’r stiwdio gerddoriaeth.
Taith Cameron
Mae stori Cameron yn dangos gwir effaith Silk Futures CIC. Wedi’i gyfeirio gan y gwasanaethau cymdeithasol oherwydd ei ymddieithrio o’r ysgol ac arestiadau lluosog, roedd Cameron ar lwybr peryglus ac mewn perygl o gael ei ecsbloetio gan ei gyfoedion.
Fodd bynnag, o’i sesiwn ysgrifennu unigol gyntaf yn Silk Futures CIC, daeth Cameron o hyd i gyfeiriad newydd. Gan ymdrochi ei hun mewn cymuned o gyfoedion tebyg, sy’n hoff o gerddoriaeth, daeth yn rhan annatod o’r grŵp yn gyflym.
Treuliodd Cameron lawer o’i amser yn ysgrifennu geiriau a recordio, gan ddarganfod angerdd am berfformiad a agorodd ddrysau newydd iddo. Arweiniodd ei ddawn am gerddoriaeth iddo berfformio gyda gwahanol sefydliadau yng Nghaerdydd, Wrecsam a Portsmouth.
Ers ymuno â Silk Futures CIC, mae Cameron wedi osgoi trafferth a dod o hyd i fywyd newydd. Hwylusodd Silk Futures CIC ei ymrestru mewn cwrs cerddoriaeth, ac mae bellach yn dilyn gyrfa mewn cerddoriaeth a’r cyfryngau yn y coleg.
Trawsnewid teuluoedd a dyfodol
Mae effaith Silk Futures CIC yn ymestyn y tu hwnt i’r cyfranogwyr unigol i’w teuluoedd. Mae rhieni wedi gweld trawsnewidiadau rhyfeddol yn ymddygiad a hyder eu plant.
Rhannodd un rhiant:
“Nid yw fy mab 13 oed yn yr ysgol ar hyn o bryd ac mae ar y gofrestr amddiffyn plant ond mae’r sesiynau hyn yn ei helpu gymaint. Nid yw’n colli un. Bob tro mae’n dod adref mae mor hapus ac mae’n gwneud iddo aros ar y llwybr cywir, mae’n blentyn hollol wahanol i flwyddyn yn ôl.”
Adleisiodd rhiant arall y teimlad hwn, gan ddweud:
“Mae fy mab bob amser yn gyffrous pan gaiff gyfleoedd i berfformio ei gerddoriaeth. Mae wedi gwneud dewisiadau gwell am ei fywyd ers iddo ddod at y grwp, mae cael mentoriaid i’w gefnogi wedi gwneud gwahaniaeth enfawr.’’