Cronfa Griced Pobl Ifanc
Mae’r Gronfa Griced Pobl Ifanc (“Cronfa YPC”) wedi’i chreu i alluogi pobl ifanc sydd heb fynediad at griced i gael profiad o’r gêm ac elwa ohoni, yn gorfforol a meddyliol.
Roedd Mohammed Ahmed Rahim Galadari yn ddyn busnes llwyddiannus oedd yn caru criced yn angerddol. Roedd yn cefnogi’r gêm yn ariannol, ac roedd ganddo ddiddordeb yn arbennig mewn cynnwys pobl ifanc o gymunedau lle nad oedd fawr o gyfle fel arall iddyn nhw chwarae criced. Roedd yn ymwybodol o allu criced i ddatblygu sgiliau bywyd a magu hunan hyder mewn plant, ac i helpu i dynnu sylw at werthoedd gwaith tîm ar draws wahanol ddosbarthiadau, ethnigrwydd a chenedlaethau.
Gweledigaeth Mr Galadari oedd creu corff i helpu gyda’r amcanion hyn, ac o ganlyniad crëwyd Sefydliad M.A.R.G. Galadari (“y Sefydliad”). Y Sefydliad fydd y prif beiriant o ran codi arian ar gyfer Cronfa YPC, ond mi fydd hefyd yn chwarae rhan weithredol a phwysig o ran sicrhau bod yr arian a godir yn cael ei ddefnyddio’n unol â’r amcanion, gan roi sicrwydd i gyfranwyr.
Bydd y Sefydliad a Chronfa YPC, yn unol â dymuniadau gwybyddus Mr Galadari, yn dyfarnu grantiau yng Ngogledd Gwlad yr Haf a Chymru i gyrff a gymeradwyir gan y Sefydliad, i helpu i gyflawni ei amcanion. I osgoi dyblygu costau gweinyddol, bydd Cronfa YPC yn gweithio mewn partneriaeth â Sefydliad Cymunedol Cymru i gyflawni amcanion y Sefydliad.
Ar hyn o bryd maent yn rheoli Cronfa Criced Cymru, ac mae ganddynt brofiad o gasglu rhoddion a gweinyddu Rhodd Cymorth. Mae Sefydliad Cymunedol Cymru wedi bod wrthi’n cynorthwyo elusennau a grwpiau cymunedol gyda chyllid i gryfhau cymunedau, a chreu cydraddoldeb a chyfleoedd, ers dros ugain mlynedd.