
Cronfa i Gymru
Mae Cronfa Cymru yn cefnogi sefydliadau ac elusennau lleol, ar lawr gwlad sydd wedi’u gwreiddio yn eu cymunedau lleol. Mae’r wybodaeth a’r profiad uniongyrchol hwn yn galluogi’r grwpiau hyn i ddarparu gwasanaethau hanfodol sy’n adweithiol ac sy’n gallu mynd i’r afael ag anghenion sy’n dod i’r amlwg ar unwaith; gwneud gwahaniaeth gwirioneddol mewn cymunedau trefol a gwledig ledled Cymru.

Bydd rhoddion i Gronfa i Gymru yn mynd tuag at gefnogi mudiadau cymunedol bach, gwirfoddol gyda grantiau rhwng £500 a £2,000 tuag at y meysydd canlynol:
- Gwella cyfleoedd pobl mewn bywyd
- Adeiladu cymunedau cryfach
- Gwella amgylcheddau gwledig a threfol
- Annog pobl a chymunedau iachach a mwy gweithgar
- Diogelu treftadaeth a diwylliant
Darllenwch fwy am effaith Cronfa i Gymru
