Sut i gwyno

Rydym ni’n gobeithio eich bod yn hollol fodlon gyda phob gwasanaeth a chyngor gan Sefydliad Cymunedol Cymru, ond os oes gennych chi gŵyn am ein gwasanaethu, rydym eisiau clywed oddi wrthych.

Byddwn yn cymryd eich cwyn o ddifrif, yn talu sylw iddi ac yn ymateb i chi gynted â phosibl.

Os ydych eisiau cwyno am y Sefydliad, ein polisi yw sicrhau fod cwynion yn:

  • cael eu trin cyson
  • derbyn gwrandawiad a chael eu hymchwilio’n drwyadl
  • cael eu cydnabod a’u cofnodi’n gyflym
  • cael eu trin mewn ffordd addas, teg a phrydlon

Mae unrhyw gwynion yn erbyn y Sefydliad a’r hyn y byddwn ni’n ei wneud, yn cael eu hadrodd wrth Fwrdd yr Ymddiriedolwyr.

Pwy a all gwyno?

Gall unrhyw un sydd wedi’i effeithio gan ein gwasanaeth gyflwyno cwyn i Sefydliad Cymunedol Cymru.

Dylid nodi nad yw’r weithdrefn hon yn ffordd o apelio yn erbyn penderfyniadau paneli grantiau’r Sefydliad. Mae’r penderfyniadau hynny’n derfynol ac yn cael eu cadarnhau gan Fwrdd yr Ymddiriedolwyr.

Sut y gellir cyflwyno cwyn ?

  • Yn ysgrifenedig
  • Yn bersonol
  • Dros y ffôn

Os yw eich cwyn yn un ddifrifol iawn – er enghraifft, cwyn o niwsans neu aflonyddu – dylech ei chyflwyno’n ysgrifenedig.

I ddechrau, rydym ni’n annog pobl sy’n anfodlon gyda’n gwasanaeth(au) i gysylltu â ni i drafod eu cwyn.

Yn aml, gellir trin a thrafod, ac efallai ddatrys, cwynion yn anffurfiol ac yn foddhaol gydag aelod priodol o staff.

Os ydych yn ansicr â phwy i gysylltu, ysgrifennwch at neu siaradwch gyda:

Richard Williams
Prif Weithredwr
Sefydliad Cymunedol Cymru
24 St Andrews Crescent
Cardiff
CF10 3DD

Neu, e-bostiwch info@communityfoundationwales.org.uk, gyda’r teitl ar eich e-bost:

‘Cwyn – at sylw Richard Williams’

Os ydych yn dymuno trafod problemau neu adborth, ffoniwch ni ar 02920 379 580.

Byddwn yn cydnabod eich cwyn o fewn tri diwrnod gwaith o’i derbyn ac yn anfon ymateb ffurfiol o fewn tair wythnos.

Os nad ydych chi’n fodlon gyda’n hymateb, gallwch ofyn am gyngor pellach oddi wrth y Charity Commission.