Gweithdai grantiau

Bydd y gweithdai hyn yn eich arwain trwy’r hyn sydd ei angen arnoch i wneud cais am grantiau gan Sefydliad Cymunedol Cymru a’r hyn sy’n gwneud cais da.

Bydd y gweminar hwn yn edrych ar yr elfennau canlynol o gais grant da.

  • Dogfennau ategol y bydd angen i chi eu hatodi i’ch cais
  • Help gyda pholisïau y dylai fod gan eich sefydliad yn eu lle
  • Meini prawf cymhwyster
  • Beth sy’n gwneud cais grant da
  • Pa gefnogaeth sydd ar gael

 

16 Ebrill 11.00 – 12.00 2025 – Gweithdy Grantiau – Sut i ysgrifennu cais am grant

14 Mai 11.00 – 12.00 2025 – Gweithdy Grantiau – Sut i ysgrifennu cais am grant

16 Gorffennaf 11.00 – 12.00 2025 – Gweithdy Grantiau – Sut i ysgrifennu cais am grant

Cofrestrwch i glywed am ein gweithdai yn gyntaf!

Llenwch y ffurflen isod i gofrestru eich diddordeb mewn gweithdai sydd ar y gweill.