Cynllunio prosiect

Mae llawer o bethau i feddwl amdanynt wrth gynllunio cais am gyllid, o nodi a phrofi’r angen am eich prosiect i ddod o hyd i’r cyllidwr cywir ac i ddeall sut rydych chi’n gwybod y bydd eich prosiect yn gwneud gwahaniaeth.

Yn yr adran hon o’n pecyn cymorth grantiau rydym wedi creu cyngor ac arweiniad o’r hyn i’w ystyried, ble i ddod o hyd i gymorth pellach a sut i fod yn fwy parod cyn cyflwyno cais. Mae’r rhain i gyd yn feysydd yr ydym yn edrych arnynt pan fyddwn yn asesu eich cais am arian. Gobeithiwn y bydd y canllawiau yma yn helpu i’ch cefnogi nid yn unig yn ein proses ymgeisio, ond hefyd ar gyfer ceisiadau i gyllidwyr eraill.

Byddem wrth ein boddau’n clywed eich adborth, p’un ai ydi hyn wedi bod yn ddefnyddiol ai peidio, neu os ydych yn meddwl bod unrhyw beth arall y gallwn ei ychwanegu a fydd yn gwella’r pecyn cymorth.

E-bostiwch ni – grants@communityfoundationwales.org.uk – gan roi Adborth Pecyn Cymorth Grantiau yn y maes pwnc.