Rydyn ni yma i'ch cefnogi chi
Mae effaith yr achos COVID-19 yn bellgyrhaeddol ac mae’n cynnwys goblygiadau mawr i’r trydydd sector a’r cymunedau y maent yn eu gwasanaethu.
Rydym yn cydnabod y bydd llawer o elusennau a grwpiau cymunedol bach yn poeni am ei effaith ar eu gwaith a’u cymunedau.
Rydym isio bod mor gynorthwyol â phosibl yn ystod yr wythnosau a’r misoedd nesaf fel y gall grwpiau elusennol ganolbwyntio ar y gwaith hanfodol o gefnogi rhai o’r bobl sydd fwyaf agored i niwed yn ein cymunedau.
Rydym yn deall y bydd adegau pan na fydd staff a gwirfoddolwyr ar gael, pan fydd angen darparu gwasanaethau mewn gwahanol ffyrdd, neu pan fydd angen i systemau fod yn hyblyg i sicrhau bod anghenion yn cael eu diwallu.
Rydym am eich sicrhau ein bod:
- Nid ydym am ychwanegu pwysau, felly byddwn yn mynd i fod mor hyblyg ag y gallwn fod ynglŷn â grantiau sydd gennych eisoes. Os credwch y byddwch yn ei chael yn anodd cwrdd â therfyn amser adrodd nol, cysylltwch â ni fel y gallwn gytuno ar amser mwy realistig i chi gael pethau atom lle bynnag y bo modd.
- Deall efallai y bydd angen i chi ddefnyddio’ch grant i brynu offer, neu ddarparu gwasanaethau yn wahanol, a byddwn yn rhesymol os bydd angen i chi addasu’ch gweithgareddau a gwario’r grant yn wahanol i sicrhau y gall eich gwaith barhau.
Cysylltwch ag aelod o’r Tîm Grantiau trwy e-bostio grants@communityfoundationwales.org.uk os oes gennych unrhyw gwestiynau.
Strategaeth Grantiau Coronavirus
Mae’r strategaeth grantiau hon yn amlinellu sut rydym wedi ymateb hyd yn hyn, a’n bwriad yw rhoi sicrwydd i’r trydydd sector yng Nghymru y byddwn yn gwneud popeth o fewn ein gallu i’w cefnogi wrth i ni symud at normal newydd.
Darllen mwy