Cronfa i Gymru

Abertawe, Blaenau Gwent, Bro Morgannwg, Caerffili, Casnewydd, Castell-nedd Port Talbot, Ceredigion, Conwy, Dinas Caerdydd, Gwynedd, I gyd, Merthyr Tudful, Pen-y-bont ar Ogwr, Powys, Rhondda Cynon Taf, Sir Ddinbych, Sir Fynwy, Sir Gar, Sir Penfro, Sir y Fflint, Torfaen, Wrecsam, a Ynys Môn

Mae’r rhaglen yma ar agor i geisiadau

Mae ceisiadau yn agored i sefydliad YN UNIG. Mae'r Gronfa hon yn cau ddydd Llun 16 Rhagfyr am 12pm (canol dydd). Rydym yn bwriadu gwneud o leiaf chwe grant tair blynedd y flwyddyn.

 

 

Mae Cronfa i Gymru yn gronfa gwaddol gymunedol genedlaethol, sy’n cael ei rheoli a’i hyrwyddo gan Sefydliad Cymunedol Cymru.

Mae’n rhaglen hybu dyngarwch a rhoi grantiau sy’n codi arian gan bobl a sefydliadau ledled Cymru, y DU a thramor sydd am ‘roi yn ôl’ i gefnogi a chryfhau cymunedau lleol: mae’r Gronfa i Gymru yn cysylltu pobl sy’n poeni ac achosion pwysig.

Mae’r gronfa ar hyn o bryd yn cael ei chefnogi drwy bartneriaeth gyda People’s Postcode Lottery.

Mae Cronfa i Gymru yn agored i elusennau a mudiadau gwirfoddol bach, lleol, dan arweiniad y gymuned (e.e. cymdeithasau, mentrau cymdeithasol, Cwmnïau Buddiannau Cymunedol a chlybiau), gydag incwm blynyddol o lai na £100,000.

Canlyniadau’r Gronfa:

  • Gwella cyfleoedd pobl mewn bywyd,
  • Adeiladu cymunedau cryfach,
  • Gwella amgylcheddau gwledig a threfol,
  • Annog pobl a chymunedau iachach a mwy egnïol, a
  • Gwarchod treftadaeth a diwylliant.

Y grantiau sydd ar gael

Mae grantiau rhwng £500 a £2,000 y flwyddyn am hyd at dair blynedd, ar gael i sefydliadau y mae eu ceisiadau’n cyflawni orau yn erbyn y canlyniadau uchod.

Pwy all wneud cais?

Mae Cronfa i Gymru yn agored i elusennau a mudiadau gwirfoddol bach, lleol, dan arweiniad y gymuned (e.e. cymdeithasau, mentrau cymdeithasol, Cwmnïau Buddiannau Cymunedol a chlybiau), gydag incwm blynyddol o lai na £100,000 yn y flwyddyn ariannol ddiwethaf. Rydym yn croesawu ceisiadau gan sefydliadau nad ydynt erioed wedi derbyn arian o’r Gronfa hon o’r blaen.

Mae’n rhaid i chi fod yn un o’r canlynol:

  • Grwpiau gyda chyfansoddiad
  • Elusennau Cofrestredig a Sefydliadau Corfforedig Elusennol
  • Cwmni cyfyngedig gan warant
  • Cwmnïau buddiannau cymunedol
  • Mentrau cymdeithasol

Sut i wneud cais?

Rhaid i ymgeiswyr lenwi ffurflen gais ar-lein trwy ein gwefan.

Sylwer:

  • Ni ddyfernir grantiau’n ôl-weithredol, h.y. am gostau a dynnir cyn derbyn ein llythyr cynnig grant, a dychwelwyd y telerau a’r amodau llofnodedig.
  • Nid yw grantiau ar gael i gefnogi codi arian ar gyfer grwpiau ac elusennau eraill.
  • Os dyfernir grant aml-flwyddyn, rhaid gwario’r flwyddyn gyntaf o grant o fewn blwyddyn i dderbyn ein llythyr cynnig.
  • Mae angen i fuddiolwyr grŵp fyw yng Nghymru.
  • Rhaid i’r cais ddangos angen clir am gymorth ariannol, caledi ariannol neu anghenion cymorth ychwanegol.
Ymgeisiwch nawr

Gwnewch yn siŵr eich bod yn darllen y safon ddisgwyliedig cyn gwneud cais

Dyma’r safonau gofynnol mae’n rhaid i sefydliad eu cyfarfod er mwyn bod yn gymwys i gael arian gan Sefydliad Cymunedol Cymru.

Cliciwch yma
An icon of a clipboard with ticks.
A photo of young people from LAB 7 on stage singing.

Trawsnewid bywydau ifanc

Darllen mwy

Gwnewch yn siŵr eich bod yn gymwys

Darllenwch y testun canlynol i sicrhau eich bod yn gymwys cyn dechrau'ch cais:

Parhewch

Grants

Gweld y cyfan

Cronfa Waddol Cynnal

Gogledd Cymru, Gwynedd, I gyd a Ynys Môn

Cronfa Ôl-osod ar gyfer y Dyfodol Cymdeithas Adeiladu’r Principality

Abertawe, Blaenau Gwent, Bro Morgannwg

Cronfa Gwyddoniaeth Gogledd Ddwyrain Cymru – Unigolion

Conwy, Gogledd Cymru, I gyd

Cronfa Waddol Cynnal – Unigolion

Gogledd Cymru, Gwynedd, I gyd a Ynys Môn