Cronfeydd Wrecsam – Unigolion
I gyd, a Wrecsam
Mae’r rhaglen yma ar gau i geisiadau
Cronfa Gwaddol Cymunedol Wrecsam
Mae Cronfa Waddol Gymunedol Wrecsam yn ymbarél o Gronfeydd a rhoddion sy’n ymroddedig i wella addysg a chryfhau cymunedau yn Wrecsam.
Prif amcan y Gronfa yw annog, cefnogi a hyrwyddo cyrhaeddiad addysgol anstatudol a dysgu gydol oes, gan gynnwys y blynyddoedd cynnar.
Dylai ceisiadau fodloni o leiaf un o’r blaenoriaethau canlynol:
- Prosiectau cyrhaeddiad addysgol gan gynnwys dysgu gydol oes
- Prosiectau cynhwysiant addysg gyda chefnogaeth i fyfyrwyr unigol talentog ar ffurf ysgoloriaethau, gwobrau am gyrhaeddiad a deunyddiau addysgol neu adnoddau eraill
Grantiau ar gael
Gall unigolion wneud cais am grant blynyddol hyd at £500.
Pwy all wneud cais?
Mae myfyrwyr rhwng 11 a 25 oed sydd ar hyn o bryd yn byw yn llawn amser yn nhref Dinbych ac ardaloedd Cyngor Cymuned Nantglyn, Henllan, Bodfari, Aberwheeler, Llandyrnog, Llanrhaeadr yng Nghinmerch, Llanynys, Llanefydd a Llansannan, ar yr amod nad yw’r cais i gwmpasu gweithgaredd sy’n dod o fewn darpariaeth statudol.
Rhoddir blaenoriaeth i ymgeiswyr sy’n gallu dangos yn union sut y byddant yn bodloni amcanion a blaenoriaethau’r Gronfa, ac nad ydynt wedi derbyn cefnogaeth gan y Gronfa hon o’r blaen.
Sut i wneud cais?
Rhaid i ymgeiswyr lenwi ffurflen gais ar-lein y gellir ei chyrchu trwy ein gwefan.
Sylwer:
- Ni ddyfernir grantiau’n ôl-weithredol, h.y. am gostau a dynnir cyn derbyn ein llythyr cynnig grant, a dychwelwyd y telerau a’r amodau llofnodedig.
- Rhaid gwario’r grantiau’n llawn o fewn blwyddyn o dderbyn ein llythyr cynnig.
- Rhaid i’r cais ddangos angen clir am gymorth ariannol, caledi ariannol neu anghenion cymorth ychwanegol.
Gwnewch yn siŵr eich bod yn gymwys
Darllenwch y testun canlynol i sicrhau eich bod yn gymwys cyn dechrau'ch cais: