Cronfa Mentro i Freuddwydio

Cronfa Mentro i Freuddwydio

Fel rhan o etifeddiaeth Gwobrau Arwain Cymru dyma greu cronfa Mentro i Freuddwydio. Nod y gronfa yw cefnogi iechyd emosiynol a lles cleifion wardiau yng Nghaerdydd a Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro.

Mwy o fanylion ar gael ar gwobrauarwain.cymru/daringtodream/

Gweledigaeth Cronfa Mentro i Freuddwydio yw:

Cefnogi iechyd emosiynol a lles cleifion wardiau ysbytai Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro.

Nod y gronfa yw:

  • Cefnogi iechyd emosiynol a lles cleifion wardiau ysbytai Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro wrth gyllido nwyddau a gwasanaethau y mae’r staff clinigol y ward yn teimlo sydd ei hangen arnynt ac mi fydd yn cefnogi iechyd emosiynol cleifion unigol a /neu grwpiau o gleifion.
  • Cyfrannu at allu cleifion i wella ac i’w helpu nhw i addasu i fyw gydag cyflwr iechyd difrifol neu gronig drwy ddarparu nwyddau a gwasanaethau ar y ward sydd am ychwanegu at yr arbenigedd a gofal meddygol a gaiff pob un ohonynt tra byddant ar ward.

Noder:

  • Mi fydd y Gronfa yn canolbwyntio ar gefnogi cleifion o fewn ward Cardioleg i gychwyn ond fe anelir i ehangu i feysydd clinigol eraill wrth i’r gronfa dyfu er mwyn prynu’r holl nwyddau a gwasanaethau priodol.
  • Mi fydd y tîm clinigol y ward yn gyfrifol am benderfynu pa nwyddau a gwasanaethau sydd am hybu iechyd emosiynol unigolion a/neu grwpiau o gleifion

Sylwch, mi fydd eich gwybodaeth rydych yn ei rannu am rodd, bydd yn cael ei rhannu rhwng Daring to Dream ® a’r Sefydliad Cymunedol Cymru at y diben o roi’r wybodaeth ddiweddaraf i chi.

var caf_BeneficiaryCampaignId=9398;
document.write(unescape(‘%3Cscript id=”CAFDonateWidgetLoader_script” src=”https://cafdonate.cafonline.org/js/CAF.DonateWidgetLoader_script.js” type=”text/javascript”%3E%3C/script%3E’));