Lleisiau Cymraeg llawn ysbrydoliaeth o’r ochr arall i Gefnfor Iwerydd: Cymdeithas Cymru-Ariannin – Patagonia, Yr Ariannin

Rydym wrth ein bodd o ddatgelu’r pum mudiad trysor fydd yn derbyn cyllid drwy’n Cylch Rhoi Byd-eang cyntaf erioed. Dengys y pum trysor hyn yr ystod ardderchog o ddiwylliant a threftadaeth Gymreig a ddathlir ledled y byd.

Sefydlwyd y Wladfa Gymreig ym Mhatagonia yn 1865 pan hwyliodd dros 150 o ymsefydlwyr o Gymru i ddeheubarth yr Ariannin â’r addewid o dir glas a ffrwythlon – bywyd newydd mewn gwlad newydd. Dilynodd cannoedd o bobl gan greu cymunedau Cymraeg ffyniannus.

Y dyddiau hyn, dim ond canran fechan o boblogaeth y trefi a’r pentrefi hyn sydd o darddiad cyfan gwbl Gymreig. Fodd bynnag, amcangyfrifir fod gan o leiaf draean rywfaint o waed Cymreig yn eu gwythiennau, ac mae yna ymdeimlad cryf o ddiwylliant a threftadaeth Gymreig yn parhau yn y rhanbarth.

Mae’r Gymdeithas Cymru-Ariannin, a sefydlwyd yn 1939, wedi cryfhau’r cysylltiad rhwng y ddwy wlad gan hefyd hyrwyddo diwylliant a threftadaeth Gymreig. I sicrhau bod y cysylltiad cryf hwn yn parhau, mae’r Gymdeithas yn trefnu ac yn noddi cyfnewidiadau i athrawon, myfyrwyr a gweinidogion rhwng Cymru a’r Ariannin.

Cynhelir digwyddiadau Eisteddfodol mawr a bach bob blwyddyn ledled y cymunedau, ac mae cystadlaethau corawl yn nodwedd gref. Fodd bynnag, anaml y caiff caneuon gwerin Cymraeg traddodiadol eu canu, ac mae hyn wedi ysbrydoli grŵp lleol, Cymdeithas Cymru – Ariannin, i gynnal cyfres o weithdai ledled cymunedau Cymreig Patagonia.

Bydd y gweithdai hyn yn gweithio i wella elfen werin unigryw o ganu sydd wedi dod yn rhan mor sylweddol o gystadlu Eisteddfodol yng Nghymru. Bydd rhoddion i’r Cylch Rhoi Byd-eang yn talu am athrawon arbenigol o Gymru i deithio i bentrefi Cymreig Trelew, Gaiman, Esquel a Threvelin i uwchsgilio athrawon Patagonia ac i gyflwyno myfyrwyr cerddoriaeth i’r grefft o ganu gwerin Cymraeg traddodiadol, a thrwy hynny roi’r hyder iddynt hyfforddi cantorion yn yr arddull nodedig hon.

Mae’r Cylch Rhoi’n ffordd newydd o roi yn ôl i Gymru, gan uno rhwydwaith byd-eang o roddwyr i ddangos eu cariad at Gymru.

Rhoddwch heddiw drwy fynd i cylch rhoi byd-eang JustGiving a chefnogwch y mudiadau ‘Trysorau Cymru’ hyn sy’n gweithio mewn cymunedau o amgylch y byd.

Bydd pob rhodd a dderbynnir hyd at ein targed o £5,000 cyntaf yn derbyn arian cyfatebol bunt am bunt, a chaiff ei rannu’n gyfartal rhwng y pum trysor, diolch i Sefydliad Pears. Unwaith y bydd y targed hwn wedi’i gyrraedd, caiff yr holl roddion ychwanegol eu rhoi i’n gwaddol yn Cronfa i Gymru i gefnogi cymunedau lleol ledled Cymru, a bydd hefyd yn derbyn arian cyfatebol, diolch i’n Her Arian Cyfatebol Loteri Fawr Cronfa i Gymru.

News

Gweld y cyfan
Anrhydeddu sêr Hollywood a dyngarwr lleol am eu cyfraniadau eithriadol i gymunedau Gogledd Cymru

Anrhydeddu sêr Hollywood a dyngarwr lleol am eu cyfraniadau eithriadol i gymunedau Gogledd Cymru

Y galon mor bwysig a’r meddwl wrth greu ymddiriedolwyr ymroddedig

Y galon mor bwysig a’r meddwl wrth greu ymddiriedolwyr ymroddedig

Pam mae eich stori yn bwysig

Pam mae eich stori yn bwysig

Gymaint mwy na jest adroddiad arall…

Gymaint mwy na jest adroddiad arall…