Mae Dathliad cyntaf Cylch Rhoi Sylfaenwyr Prifysgol Aberystwyth yn codi £11,575
Mae’r Sefydliad Cymunedol yng Nghymru wrth eu bodd bod Dathliad Diwrnod Sylfaenwyr Prifysgol Aberystwyth yn Llundain wedi codi £11,575 ar gyfer achosion elusennol yn y Brifysgol.
Ddydd Gwener, y 27ain o Dachwedd, ymunom ein lluoedd â Phrifysgol Aberystwyth, a thrwy’n partneriaeth â Sefydliad Pears, fe greodd amrywiad arloesol ar ein thema o Gylchoedd Rhoi. Y nawfed yn ein cyfres o gynlluniau peilot Cylch Rhoi oedd y noswaith, ac fe’i mynychwyd gan aelodau o Gymdeithas Cyn-fyfyrwyr Prifysgol Aberystwyth, cyn-fyfyrwyr nodedig, a chyfeillion a chefnogwyr y brifysgol.
Siaradodd y dramodydd, y cyfarwyddwr a’r cynhyrchydd, Ed Thomas, a anrhydeddwyd fel Cymrawd Prifysgol Aberystwyth yn 2014, am y rhan bwysig oedd gan y brifysgol wrth greu ei gyfres drosedd ddwyieithog, Hinterland. Roedd hyn yn cynnwys rhaglen benodedig i ddatblygu sgiliau a phrofiadau gwaith ar gyfer myfyrwyr Aber. O fod wedi gweld buddion hyn drosto’i hun, fe aeth Thomas ati i annog gwesteion i gefnogi amgylchedd dysgu myfyrwyr Aberystwyth a’u rhagolygon bywyd y tu hwnt i’r brifysgol.
Diolch i lwyddiant y Cylch Rhoi, dyfarnwyd grantiau o dan y tri chategori a ganlyn:
Cyfle i Fyfyrwyr – bwrsariaethau bychain i helpu i dalu costau teithio a lletya ar gyfer lleoliadau gwaith a gweithdai.
Lles a Llesiant Myfyrwyr – profodd sesiynau am ddim er mwyn cael gwared â straen yn ystod cyfnod yr arholiadau ym mis Ionawr yn llwyddiannus iawn, a chaiff y rhain eu hailadrodd ym mis Ebrill a mis Awst.
Cronfa Caledi – mae’r dyfarndaliadau hyn yn sicrhau nad oes yn rhaid i neb adael y brifysgol oherwydd caledi ariannol. ‘Llynedd, gwnaed 50 o ddyfarndaliadau caledi, oedd yn gwneud cyfartaledd o £570, i helpu myfyrwyr i gwblhau’u haddysg, a rhoddwyd 70 yn rhagor o ddyfarndaliadau ar gyfer bwyd.
Diolchodd Is-ganghellor y Brifysgol, April McMahon, i gyn-fyfyrwyr a chefnogwyr y Brifysgol, gan egluro, “Mae’n anrhydedd inni gael partneriaeth a chefnogaeth y Sefydliad Cymunedol yng Nghymru yn ein nod unedig o ddathlu ac o hyrwyddo dyngarwch. Cynhaliodd y Sefydliad grwpiau ffocws gyda’n myfyrwyr sy’n derbyn ei amrywiol ysgoloriaethau i ddysgu mwy am werth y buddsoddiadau hyn; cydnabu ein rhodd gwaddol mawr diweddaraf drwy anrhydeddu’r cyn-fyfyriwr, Peter Hancock, â Gwobr Ddyngarwch glodfawr; a thrwy bartneriaeth Sefydliad Pears, y mae wedi cerdded ochr yn ochr â ni wrth inni gynnal ein Cylch Rhoi cyntaf.
“Mae’r agwedd o alluogi ac o roi yn ôl wedi bod yn ffordd o fyw i Aber ers ein dechreuad. Dywedodd ein Prifathro cyntaf un, Thomas Charles Edwards: “Mae Colegau gwych yn dod yr hyn yr ydynt drwy agor eu giatiau i bawb.” Roedd hynny’n beth anhygoel i’w ddweud yn ôl yn 1885 – ac fe olygai mai y ni oedd un o’r prifysgolion cyntaf un i roi ysgoloriaethau ar gael i unrhyw un oedd â’r ddawn i lwyddo, ni waeth o ble yn y byd roeddynt yn dod, p’un ai eu bod yn ddynion neu’n ferched, na pha gefndir neu grefydd a allai fod ganddynt. Roedd hon yn farn eithriadol o flaengar, ac rydym yn falch iawn o’r traddodiad hwnnw, ac mae’n dal yn rhan o’r hyn a wna Brifysgol Aberystwyth yn arbennig heddiw.”
Ar gyfer ein degfed digwyddiad Cylch Rhoi, rhoddwn y cyfle i bobl sy’n caru Cymru roi yn ôl i Gymru. Ddydd Llun, y 25ain o Ionawr (Dydd Santes Dwynwen), lansiom Gylch Rhoi Byd-eang ar-lein cyntaf Cymru er budd cymunedau Cymreig.
Bydd y £5,000 cyntaf a godir yn derbyn arian cyfatebol, bunt am bunt, gan Sefydliad Pears ac fe’i rhoddir fel grantiau i bump o sefydliadau ym Mhatagonia, Gogledd America, Cymru a Llundain. Bydd unrhyw arian a godir y tu hwnt i’r nod cychwynnol o £5,000 yn cael ei roddi’n awtomatig i’r Gronfa i Gymru, a bydd Y Gronfa Loteri Fawr yn rhoi’r un swm fel arian cyfatebol.