Monitro a gwerthuso
Fel ariannydd, rydyn ni â diddordeb mewn clywed oddi wrth y sefydliadau a’r prosiectau rydyn ni’n eu hariannu pa newidiadau rydych chi wedi’u gwneud yn eich cymunedau gyda’r arian rydyn ni wedi’i roi i chi. Dyna pam ein bod yn gofyn i chi gwblhau ffurflen fonitro ar ôl derbyn y grant ac ar ddiwedd pob blwyddyn neu pan ddaw eich grant i ben, yn dibynnu ar gyfnod y grant.
Y prif beth rydyn ni eisiau ei wybod yw pa wahaniaeth rydych chi wedi’i wneud i fywydau’r bobl rydych chi’n gweithio gyda nhw. Bydd yna hefyd gwestiynau ynghylch arian a dysgu o’r prosiect. Rydyn ni’n awyddus i glywed am eich llwyddiannau a hefyd am eich trafferthion a sut rydych chi wedi addasu eich gwaith i gyfarfod â newidiadau yn anghenion y rhai rydych yn eu cefnogi.
Bydd ebost yn cael ei anfon atoch gyda dolen at eich adroddiad interim 6 mis ar ôl derbyn eich grant ac ar ddiwedd y flwyddyn, neu ar ddiwedd cyfnod monitro eich grant ar ben-blwydd cael cynnig eich grant.
Rydyn ni’n gobeithio y bydd y canllawiau hyn yn ddefnyddiol, ac, er eu bod yn canolbwyntio ar ein anghenion ni, mae llawer o’r wybodaeth yn gyffredinol a bydd o help i ddeall monitro a gwerthuso yn ei gyfanrwydd.
Fe fydden ni wrth ein bodd yn cael adborth gennych, a hefyd o glywed a oedd hyn yn ddefnyddiol neu a oes yna unrhyw beth arall y gallwn ni ei ychwanegu i wella’r pecyn offer.
Ebostiwch ni ar – grants@communityfoundationwales.org.uk – cofiwch roi Adborth Pecyn Gwaith Grantiau ym maes y pwnc.