Pam mae eich stori yn bwysig
Fel prif awdur a chrëwr cynnwys (teitl swyddogol Pennaeth Cyfathrebu a Marchnata), rhan fawr o’m swydd yw adrodd straeon. Straeon y grwpiau rydym yn eu hariannu sy’n gweithio’n galed i gryfhau eu cymunedau lleol a straeon y bobl y mae eu bywydau yn cael eu newid o ganlyniad i’n cefnogaeth.
Yn ein cyfarfodydd dyddiol, wrth i ni drafod y panel grant diweddaraf neu ddarn newydd o ymchwil neu gyfarfod â rhoddwr, bydd y tîm yn aml yn fy nghlywed yn dweud ‘Rwy’n credu y gallawn greu blog am hyn’ a dyma oedd fy union feddwl ar ymweliad prosiect gyda Chymdeithas Adeiladu’r Principality i Theatr Realiti yng Nghasnewydd.
Derbyniodd Theatr Realiti grant aml-flwyddyn gan Gronfa Cenedlaethau’r Dyfodol Cymdeithas Adeiladu’r Principality. Mae Sefydliad Cymunedol Cymru yn rheoli’r gronfa ar ran y Principality gyda’r nod o gael effaith gadarnhaol ar gymdeithas a bywydau pobl ifanc yng Nghymru.
Ers agor yn 2022, mae Cronfa Cenedlaethau’r Dyfodol eisoes wedi dosbarthu £1 miliwn mewn grantiau ac yn ddiweddar bu’r drydedd rownd o geisiadau, ac roedd Theatr Realiti Casnewydd yn un o 18 ymgeisydd llwyddiannus.
Defnyddiodd Theatr Realiti eu grant o £25,000 tuag at eu prosiect Llwybrau Creadigol sy’n darparu gweithgareddau i bobl ifanc ag anghenion dysgu ychwanegol. Mae’n cynnig gofod wythnosol iddynt lle gallant greu cyfeillgarwch, datblygu sgiliau cymdeithasol, ehangu eu gwybodaeth, a chynyddu eu hyder.
Wrth siarad â Juls, o’r theatr, roedd ei brwdfrydedd dros ddarparu llwybr creadigol i bobl ifanc ag anghenion dysgu ychwanegol yn amlwg wrth iddi siarad am y cynyrchiadau niferus, digwyddiadau a sioeau sydd nid yn unig wedi rhannu sgiliau penodol i’r diwydiant ond hefyd wedi meithrin ymdeimlad o gymuned ymhlith y cyfranogwyr.
Ond fe darodd gwir effaith eu gwaith pan rannodd rhai o’r bobl ifanc eu profiadau gyda ni.
Dywedodd John fod y sesiynau’n “hwyl dda”, yn enwedig y sesiynau canu a dawnsio a bod yn “braf cael rhywle i fynd sy’n teimlo’n ystyrlon.”
Soniodd Farzana am ba mor swil oedd hi pan ddechreuodd fynychu am y tro cyntaf ond nawr, mae hi’n teimlo’n hyderus ac yn helpu aelodau newydd i gredu ynddynt eu hunain a dod o hyd i’w hyder wrth berfformio.
Yn syml, dywedodd Cole, sydd bellach yn gwirfoddoli gyda’r grŵp: ‘’Rwyf wrth fy modd, rwy’n teimlo’n gartrefol.’’
Roedd clywed y bobl ifanc hyn yn rhannu eu profiadau a siarad am y ffordd mae eu hyder wedi tyfu yn wirioneddol galonogol ac ysbrydoledig.
Mae’r enghreifftiau hyn o sut mae ein grantiau’n cefnogi’r rhai sydd ei angen fwyaf nid yn unig yn straeon teimladwy i’w rhannu ond yn dangos yn glir pam mae angen mwy o gefnogaeth ar grwpiau fel hyn. Pan fyddwn yn siarad â phartneriaid a rhoddwyr, dyma’r straeon a fydd yn eu hysbrydoli i gymryd rhan a rhoi.
Rwy’n gobeithio, wrth i chi ddarllen straeon fel y rhain, y gallwch chi deimlo’r egni a’r brwdfrydedd sy’n deillio o’r prosiectau hyn a’r bobl maen nhw’n eu cefnogi. Rwy’n gobeithio y bydd yn annog grŵpiau i rannu eu straeon i’n helpu i wella dealltwriaeth o’r heriau sy’n eu hwynebu a dangos sut maent yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol yn eu cymuned leol.
Os oes gennych chi stori rydych chi am ei rhannu, cysylltwch â ni – byddem wrth ein bodd yn clywed gennych!