Cronfa Cenedlaethau’r Dyfodol Cymdeithas Adeiladu’r Principality
Mae Cronfa Cenedlaethau’r Dyfodol yn gronfa Cymru gyfan a sefydlwyd mewn partneriaeth â Chymdeithas Adeiladu’r Principality gyda’r nod o gael effaith gadarnhaol ar gymunedau a bywydau pobl ifanc yng Nghymru.
Bydd y gronfa’n cefnogi’r trydydd sector a sefydliadau cymunedol ledled Cymru i helpu / annog
- Mwy o bobl ifanc i ddatblygu arferion cynilo positif i lwyddo i gyrraedd eu nodau mewn bywyd a chymryd y penderfyniadau iawn ar gyfer eu dyfodol
- Mwy o bobl ifanc i adeiladu cadernid ariannol ar gyfer ansicrwydd bywyd
- Mwy i bobl ifanc yn paratoi ar gyfer y dyfodol a byd gwaith (gan gynnwys meithrin sgiliau)
- Mwy o bobl ifanc yn cael gwaith
- Mwy o bobl ifanc yn byw’n gynaliadwy ac yn cael atebion cynaliadwy i heriau lleol