Rhannu’r dysgu a pharhau â’r sgwrs ynghylch ymddiriedolaethau a sefydliadau
Ar Ddydd Gŵyl Dewi, gyda chefnogaeth hael Brewin Dolphin, cynhaliwyd digwyddiad yn eu swyddfa yn Llundain i rannu canfyddiadau ein Adroddiad Prosiect Ymddiriedolaethau a Sefydliadau a grëwyd i’n helpu i gael gwell dealltwriaeth o’r sector elusennol yng Nghymru a’r cyfleoedd cyllido sy’n bodoli y tu allan i Gymru.
Cafwyd llawer o sylw i’r digwyddiad ac roedd cynrychiolaeth dda o drydydd sector Cymru a nifer o ymddiriedolaethau a sefydliadau wedi’u lleoli yn Llundain.
Roedd hi’n wych cael Carol Mack – Prif Weithredwr ACF, Ruth Marks – Prif Weithredwr WCVA a Flora Craig – Dirprwy Gyfarwyddwr Sefydliad Garfield Weston, fel rhan o banel yn rhannu eu safbwyntiau.
Dechreuwyd y sgwrs gyda chwestiwn a amlygwyd gan yr adroddiad am y nifer gymharol fechan o sefydliadau sydd wedi eu cofrestru fel elusen yng Nghymru. Fe wnaethon ni drafod yr her o sefydlu fel elusen, gan gynnwys yr amser mae’n ei gymryd i fynd drwy’r broses a’r dilema o sefydlu cyfrif banc elusennol cyn neu ar ol cofrestru.
Teimlwyd bod y broses o ddod yn Gwmni Budd Cymunedol (CIC), yn gyflymach ac yn fwy hyblyg i ddechrau, ond nad oedd llawer o wybodaeth ar gael o ran y lefel is o gyllid sydd ar gael o’i gymharu ag elusen i gefnogi yn y tymor hirach i GIC.
Un cam a gytunwyd oedd gofyn i’r Comisiwn Elusennau os byddai modd cynnwys canllaw byr i grynhoi eu cyngor ar sefydlu elusen, fel rhan o’r casgliad o dywysyddion pum munud ar gyfer ymddiriedolwyr elusennol. Byddai hyn yn offeryn defnyddiol iawn i asiantaethau seilwaith ei ddefnyddio wrth gynghori grwpiau.
Buom yn siarad am y gwerth gall grwpiau llai gael o bartneriaeth, sut allai hynny edrych mewn ffordd ffurfiol neu anffurfiol a thrafodaeth ynghylch posibiliadau cyllidwyr sy’n derbyn ceisiadau gan bartneriaethau, pa ganllawiau sydd ar gael a’r hyn sy’n ariannu lefelau goddefgarwch o ran hyblygrwydd o amgylch meini prawf sy’n addas.
Mae hwn yn ddarlun cymysg iawn ond roedd cydnabyddiaeth, o ran amrywiaeth, tegwch a chynhwysiant, fod angen gwneud mwy i ddod â dyfnder gwybodaeth ac arbenigedd grwpiau llai, sy’n aml yn gweithio gyda grŵp hunaniaeth sengl wedi’i dargedu’n well, i’r wyneb.
Amlygwyd nad yw’r materion hyn yn unigryw i Gymru a’u bod yn cael eu hadlewyrchu mewn pocedi ledled y DU, yn enwedig Gogledd-ddwyrain Lloegr. Ni ddylai fynd heb sylw fod lefelau uwch na’r cyfartaledd o dlodi ac amddifadedd hefyd yn amlwg yn yr ardaloedd hyn.
Roedd sgyrsiau am sut i osod yr ochr ariannol o geisiadau mewn partneriaeth, yn enwedig pan mae cyllidwyr yn cael eu hannog i ystyried dyfarnu mwy o gyllid cost craidd neu gyllid anghyfyngedig. Doedd dim profiad yn yr ystafell o ddosbarthu cyllid fel hyn, fodd bynnag, pwysleisiwyd bod gan arian prosiect le o hyd ac mae’n bwysig i grwpiau cyn belled â bod y prosiect yn cael ei ariannu’n llawn i gynnwys sefydliadol yn ogystal â chostau prosiect i’r holl bartneriaid.
Cytunodd y rhai yn yr ystafell y bydd deall tirwedd ariannu Cymru yn well yn eu helpu wrth iddyn nhw ystyried ceisiadau yn y dyfodol. Roedd awydd amlwg yn yr ystafell i rannu’r dysgu gyda’u sefydliadau ehangach, ac i ystyried ffyrdd o weithio a fydd yn sicrhau dosbarthiad mwy teg o gyllid ac yn galluogi cyllidwyr y DU i gyflawni eu nodau’n well yng Nghymru a thu hwnt.
Os ydych chi’n gweithio i Ymddiriedolaeth ac â diddordeb mewn dod o hyd i ffyrdd o fod yn fwy cefnogol i grwpiau yng Nghymru, byddem wrth ein boddau’n clywed gennych i drafod sut y gallwn weithio gyda’n gilydd.
Anfonwch e-bost at Andrea Powell, Cyfarwyddwr Rhaglenni.