Sefydliad Cymunedol yng Nghymru yn dod hwyl y Nadolig i Bentrebane

Mae grŵp cymunedol yn un o ardaloedd mwyaf difreintiedig y brifddinas yn gallu mwynhau parti Nadolig; diolch i rodd bonws gan sefydliad elusennol Cymreig.

Collodd Pentrebane Zone ger Fairwater werth £200 o fwyd i’r parti Nadolig pan wnaeth y rhewgell dadrewi yn anfwriadol yn gynharach ym mis Rhagfyr. Mae’r ganolfan yn cael ei rhedeg gan wirfoddolwyr o’r gymuned ac mae’n darparu cefnogaeth i bobl o bob oed yn yr ardal; o addysgu sgiliau gwaith coed a garddio i ddarparu prydau poeth a gwasanaeth banc bwyd FareShare ar gyfer y rhai sy’n cael trafferth â thlodi.

Roedd y ganolfan wedi bod yn cynllunio parti Nadolig am fisoedd ar ôl gorfod canslo’r digwyddiad y llynedd oherwydd diffyg arian, pan gafodd eu rhewgell ei ddadmer yn ddamweiniol a chafodd £200 o fwyd ei golli.

Roedd yn ergyd anferth i’r grŵp a oedd yn gobeithio cynnal cinio Nadolig cymunedol i drigolion o bob oed, yn ogystal â groto Siôn Corn ar gyfer y plant. Dynodir Pentrebane fel un o’r ardaloedd mwyaf difreintiedig yng Nghymru, gyda thlodi parhaus, a byddai llawer o’r rhai sy’n defnyddio’r gwasanaeth fel arall yn cael trafferth i ddathlu’r Nadolig gyda pharti eu hunain.

Ar ôl clywed am helynt Pentrebane Zone, fe gynigodd y Sefydliad Cymunedol yng Nghymru rhodd ychwanegol o’i gronfeydd i helpu’r grŵp i sicrhau y gallent gael y parti Nadolig. Mae’r Sefydliad Cymunedol yng Nghymru yn elusen sy’n rheoli arian gan ddyngarwyr ac yn rhoi grantiau i brosiectau cymunedol ledled Cymru. Mae’r Sefydliad eisoes wedi ariannu prosiectau Pentrebane Zone, gan gynnwys ardal garddio ac offer gwaith coed. Clywodd am y gwirfoddolwyr yn cael eu gorfodi i ganslo’r parti Nadolig yn ystod ymweliad gan un o’i ymddiriedolwyr.

Wrth siarad am y rhodd, dywedodd Sam Holt, gwirfoddolwr Pentrebane Zone: “Roeddem wrth ein bodd i glywed am y gefnogaeth ychwanegol gan Sefydliad Cymunedol yng Nghymru. Bydd yn gwneud gwahaniaeth mawr i’r teuluoedd sy’n defnyddio’r ganolfan y Nadolig hwn. Rydym hefyd wedi cael rhywfaint o gefnogaeth bersonol gan Gynghorwr Neil McEvoy i’n helpu i gyrraedd ein targed codi arian, fel y gallwn ddod a thipyn o hwyl i blant yn y Groto Santa.”

Parhaodd Sam; “Mae Pentrebane Zone yn gwneud gwahaniaeth mawr i’r bobl sy’n defnyddio’r gwasanaethau yma ac yn dangos y rhyfeddodau y gall criw o bobl leol eu gwneud yn eu cymuned pan fyddant yn rhoi eu calon ynddo. Mae’n fy ysbrydoli ac wedi gwneud i mi gredu yn y gymdeithas leol.”

Meddai Richard Williams, Prif Weithredwr y Gymdeithas Gymunedol yng Nghymru: “Mae Pentrebane Zone yn enghraifft wych o sut mae grŵp yn cryfhau eu cymuned ac yn cwrdd ag anghenion lleol – yn aml ar gyllideb fach neu wirfoddol. Maent yn deall eu heriau a’u huchelgais, ac maent yn gweithio’n galed i fynd i’r afael â materion allweddol a chyflawni dyheadau pobl yn eu cymdogaethau. Dyma’r math o brosiectau y mae ein rhoddwyr y Sefydliad yn ei helpu, sydd yn cael effaith go iawn ar bobl yng Nghymru. Roeddem yn falch o allu camu i mewn a rhoi hwb i’r parti Nadolig cymunedol hwn yn y ffordd yma gyda rhodd ychwanegol a dymuno Nadolig Llawen i bawb sydd yn cymryd rhan. “

News

Gweld y cyfan
Anrhydeddu sêr Hollywood a dyngarwr lleol am eu cyfraniadau eithriadol i gymunedau Gogledd Cymru

Anrhydeddu sêr Hollywood a dyngarwr lleol am eu cyfraniadau eithriadol i gymunedau Gogledd Cymru

Y galon mor bwysig a’r meddwl wrth greu ymddiriedolwyr ymroddedig

Y galon mor bwysig a’r meddwl wrth greu ymddiriedolwyr ymroddedig

Pam mae eich stori yn bwysig

Pam mae eich stori yn bwysig

Gymaint mwy na jest adroddiad arall…

Gymaint mwy na jest adroddiad arall…