Cronfa True Venture
Mae True Venture ar daith i ysbrydoli a chefnogi athletwyr ifanc yng Ngogledd Cymru drwy wella mynediad at gyfleoedd cadarnhaol drwy chwaraeon. Maen nhw’n credu bod pob plentyn yn haeddu cyfle cyfartal i gymryd rhan a llwyddo mewn chwaraeon.
Sefydlwyd y Gronfa True Venture mewn partneriaeth â True Venture Foundation i gynnig cymorth ychwanegol i glybiau chwaraeon cymunedol bach sy’n gweithio ledled Gogledd Cymru gyda phlant a phobl ifanc i’w hannog i roi cynnig ar chwaraeon, caru chwaraeon a pharhau i wneud chwaraeon.
Bydd y gronfa’n blaenoriaethu grwpiau sy’n darparu cyfleoedd chwaraeon unigol * fel athletau, nofio, bocsio, beicio ac ati ac aml-chwaraeon fel triathlon ac ati, yn hytrach na gweithgareddau chwaraeon grŵp/tîm fel rygbi, pêl-droed, hoci ac ati.
Anogir grwpiau cymunedol lleol yn y trydydd sector ar draws Ynys Môn, Gwynedd, Conwy, Sir y Fflint, Sir Ddinbych a/neu Wrecsam i wneud cais am gyllid i gefnogi eu gwaith gyda phlant a phobl ifanc.
Y grantiau sydd ar gael
Mae grantiau rhwng £500 a £2,500 ar gael i grwpiau sy’n bodloni’r meini prawf uchod.
Mae enghreifftiau o geisiadau y byddem yn disgwyl eu gweld fel a ganlyn:
- Offer i allu cynnal mwy o sesiynau blasu
- Rhaglenni ac ymgyrchoedd marchnata i ddenu plant i mewn i’r gamp
- Cyrsiau hyfforddi ar gyfer hyfforddwyr i gefnogi plant a phobl ifanc i wella a thyfu
- Llogi mwy o leoliadau i alluogi mwy o sesiynau neu sesiynau hirach, wedi’u darparu trwy
fodel cynaliadwy - Cost aelodaeth neu gysylltiad â’r corff chwaraeon perthnasol i wella llywodraethiant
Wrth wneud cais am gyllid prosiect, cofiwch fod yn well gan y Gronfa ariannu eitemau cyflawn yn hytrach na chyfrannu at dreuliau ehangach. Er enghraifft, mewn rownd ariannu ddiweddar, cefnogodd y gronfa brynu 8 lletem cychwyn strôc gefn, ond ni wnaeth ariannu adran o ffensys ar gyfer diogelwch lleoliadau.
DS. Nid yw’r rhestr hon yn gynhwysfawr a byddem wrth ein bodd yn gweld syniadau newydd, arloesol. Rydym yn eich annog i drefnu galwad gyda’n Swyddog Grantiau i drafod eich prosiect yn fanylach cyn gwneud cais. Gall y Swyddog Grantiau eich cyfeirio at y lle cywir am unrhyw gymorth pellach y gallai fod ei angen arnoch neu gall eich cynghori os nad yw’ch prosiect yn cyrraedd ein disgwyliadau, er mwyn arbed amser ac ymdrech ddiangen i chi.
Pwy all wneud cais?
Mae’r gronfa am gefnogi clybiau chwaraeon cymunedol, grwpiau cyfansoddiadol a chyrff rhanbarthol lleol ar lawr gwlad, ond bydd yn ystyried ceisiadau gan gyrff chwaraeon sydd wedi’u lleoli y tu allan i Ogledd Cymru os yw’r cais yn ymwneud â sefydlu grŵp lleol yng Ngogledd Cymru.
Rhaid i chi fod yn un o’r canlynol:
- Grŵp Cyfansoddiadol
- Elusen Gofrestredig neu Sefydliad Corfforedig Elusennol
- Cwmni dielw Cyfyngedig Trwy Warant gyda nodau elusennol a chlo asedau a enwir
- Cwmni Budd Cymunedol gyda chlo asedau a enwir
- Menter Gymdeithasol
Byddai True Venture Foundation wrth eu bodd o glywed gennych os ydych chi’n teimlo bod gennych brosiect sy’n gysylltiedig â nodau’r gronfa hon ond nad yw’n bodloni terfynau ariannu neu feini prawf allweddol eraill. Os mai dyma’r achos, cysylltwch â info@trueventure.org.uk
Dechrau torri record
Cychwynnwyd y gronfa gan ymgais arloesol yn y byd gan yr athletwr dygnwch Sean Conway, a osododd record byd newydd trwy gwblhau 105 o driathlon pellter hir mewn 105 diwrnod ym mis Gorffennaf 2023.
Darllen mwy