Cronfa True Venture
Conwy, Gwynedd, Sir Ddinbych, Sir y Fflint, Wrecsam, a Ynys Môn
Mae’r rhaglen yma ar gau i geisiadau
Sefydlwyd y Gronfa True Venture mewn partneriaeth â True Venture Foundation i gynnig cymorth ychwanegol i glybiau chwaraeon cymunedol bach sy’n gweithio ledled Gogledd Cymru gyda phlant a phobl ifanc i’w hannog i roi cynnig ar chwaraeon, caru chwaraeon a pharhau i wneud chwaraeon.
Bydd y gronfa’n blaenoriaethu grwpiau sy’n cynnig cyfleoedd chwaraeon unigol* fel athletau, nofio, bocsio, beicio ac ati a rhai aml-chwaraeon fel triathlon ac ati, yn hytrach na gweithgareddau chwaraeon grŵp/tîm fel rygbi, pêl-droed, hoci ac ati.
Anogir grwpiau chwaraeon cymunedol lleol sy’n gweithredu yn y trydydd sector ledled Ynys Môn, Gwynedd, Conwy, Sir y Fflint, Sir Ddinbych a/neu Wrecsam i wneud cais am gyllid i gefnogi eu gwaith gyda phlant a phobl ifanc.
Bydd y gronfa’n cefnogi:
- clybiau chwaraeon bach sy’n canolbwyntio ar chwaraeon unigol/aml-chwaraeon, fel y nodir uchod*, i godi eu safonau i’w helpu i gynnig y gweithgareddau a’r cyfleoedd a restrir isod
- darparu gweithgareddau i annog mwy o blant a phobl ifanc i roi cynnig ar chwaraeon drwy gynyddu mynediad at gyfleoedd chwaraeon, gan gynnwys, er enghraifft, sesiynau blasu gyda model cynaliadwy
- gweithgareddau a fydd yn annog plant a phobl ifanc i garu chwaraeon, drwy godi eu dyheadau i ystyried chwaraeon cystadleuol a/neu gystadlu ar lefel uwch yn y gamp/campau o’u dewis
- gweithgareddau sy’n galluogi plant a phobl ifanc i barhau i wneud chwaraeon, drwy gynnal cyfranogiad rheolaidd yn y gamp/campau o’u dewis, boed yn gystadleuol neu mewn agwedd arall fel hyfforddi neu ddyfarnu
Rydym yn annog grwpiau i feddwl sut y byddant yn gwella hygyrchedd i’r rhai nad ydynt yn cael eu gwasanaethu’n ddigonol neu sy’n agored i niwed, gan gynnwys y rhai o gefndiroedd nodweddion gwarchodedig fel y nodir yn Neddf Cydraddoldeb 2010 ac unigolion o’r cymunedau mwyaf difreintiedig yng Nghymru.
Grantiau sydd ar gael
Mae grantiau rhwng £500 a £2,500 ar gael i grwpiau sy’n bodloni’r meini prawf uchod.
Mae enghreifftiau o geisiadau y byddem yn disgwyl eu gweld fel a ganlyn:
- Offer i allu cynnal mwy o sesiynau blasu
- Rhaglenni ac ymgyrchoedd marchnata i ddenu plant i mewn i’r gamp
- Cyrsiau hyfforddi ar gyfer hyfforddwyr i gefnogi plant a phobl ifanc i wella a thyfu
- Llogi mwy o leoliadau i alluogi mwy o sesiynau neu sesiynau hirach, wedi’u darparu trwy fodel cynaliadwy
- Cost aelodaeth neu gysylltiad â’r corff chwaraeon perthnasol i wella llywodraethiant
DS. Nid yw’r rhestr hon yn gynhwysfawr a byddem wrth ein bodd yn gweld syniadau newydd, arloesol. Rydym yn eich annog i drefnu galwad gyda’n Swyddog Grantiau i drafod eich prosiect yn fanylach cyn gwneud cais. Gall y Swyddog Grantiau eich cyfeirio at y lle cywir am unrhyw gymorth pellach y gallai fod ei angen arnoch neu gall eich cynghori os nad yw’ch prosiect yn cyrraedd ein disgwyliadau, er mwyn arbed amser ac ymdrech ddiangen i chi.
Pwy all ymgeisio?
Mae’r gronfa am gefnogi clybiau chwaraeon cymunedol, grwpiau cyfansoddiadol a chyrff rhanbarthol lleol ar lawr gwlad, ond bydd yn ystyried ceisiadau gan gyrff chwaraeon sydd wedi’u lleoli y tu allan i Ogledd Cymru os yw’r cais yn ymwneud â sefydlu grŵp lleol yng Ngogledd Cymru.
Rhaid i chi fod yn un o’r canlynol:
- Grŵp Cyfansoddiadol
- Elusen Gofrestredig neu Sefydliad Corfforedig Elusennol
- Cwmni dielw Cyfyngedig Trwy Warant gyda nodau elusennol a chlo asedau a enwir
- Cwmni Budd Cymunedol gyda chlo asedau a enwir
- Menter Gymdeithasol
Byddai True Venture Foundation wrth eu bodd o glywed gennych os ydych chi’n teimlo bod gennych brosiect sy’n gysylltiedig â nodau’r gronfa hon ond nad yw’n bodloni terfynau ariannu neu feini prawf allweddol eraill. Os mai dyma’r achos, cysylltwch â info@trueventure.org.uk
Sut i wneud cais?
Rhaid i ymgeiswyr lenwi ffurflen gais ar-lein.
Sylwer:
- Ni roddir grantiau’n ôl-weithredol, h.y. am gostau yr eir iddynt cyn derbyn ein llythyr cynnig grant, na chyn i’r telerau ac amodau gael eu dychwelyd wedi’u llofnodi.
- Nid oes grantiau ar gael i gefnogi ymgyrchoedd codi arian ar gyfer grwpiau ac elusennau eraill.
- Bydd angen i sefydliadau sy’n derbyn grant gyflwyno adroddiad gwerthuso i ddweud wrthym sut mae’r cyllid wedi’i wario a’r gwahaniaeth y mae wedi’i wneud i fywydau pobl leol.
Gwnewch yn siŵr eich bod yn darllen y safon ddisgwyliedig cyn gwneud cais
Dyma’r safonau gofynnol mae’n rhaid i sefydliad eu cyfarfod er mwyn bod yn gymwys i gael arian gan Sefydliad Cymunedol Cymru.
Cliciwch ymaGwnewch yn siŵr eich bod yn gymwys
Darllenwch y testun canlynol i sicrhau eich bod yn gymwys cyn dechrau'ch cais: