Adroddiad newydd yn canfod bod angen mwy o gefnogaeth ar sefydliadau cymunedol bach llawr gwlad yng Nghymru
Mae angen mwy o gymorth o fewn trydydd sector Cymru, o ran cyngor ac arweiniad, gweithdai a chyfleoedd rhwydweithio. Dyma neges glir adroddiad prosiect Ymddiriedolaeth a Sefydliadau a gyhoeddwyd gan Sefydliad Cymunedol Cymru heddiw.
Yn 2020, gyda chefnogaeth a chyllid gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol, Sefydliad Pears, Sefydliad Moondance a dyngarwyr unigol, creodd Sefydliad Cymunedol Cymru brosiect Ymddiriedolaeth a Sefydliadau i sicrhau dealltwriaeth ddyfnach o’r heriau sy’n wynebu grwpiau trydydd sector Cymru.
Mae’r canfyddiadau, a amlinellwyd yn yr adroddiad, yn codi cwestiynau ynghylch sut y gall cyllidwyr y DU ddefnyddio’r dysgu hwn i fod yn fwy hyddysg, gan eu galluogi i gryfhau eu cefnogaeth i’r trydydd sector yng Nghymru. Mae hefyd yn cynnig argymhellion ar gyfer grwpiau Cymru yn y trydydd sector ar sut i gryfhau a datblygu.
Dywedodd Andrea Powell, Cyfarwyddwr Rhaglenni (Dirprwy Brif Weithredwr) Sefydliad Cymunedol Cymru:
“Mae’r dysgu yn dilyn y Prosiect Ymddiriedolaeth a Sefydliadau hwn yn sylw at nifer o rwystrau sy’n gwneud cyllid i Gymru yn anodd. Dydi rhai o’r materion a amlygwyd megis maint y grwpiau ddim yn unigryw i Gymru, felly bydd cyrhaeddiad estynedig i’r adroddiad y tu hwnt i Gymru.
Ein bwriad yw rhannu’r adroddiad hwn yn ehangach gydag Ymddiriedolaethau a Sefydliadau Elusennol yn ogystal a chyrff seilwaith. Bydd hyn yn codi ymwybyddiaeth o’r rhwystrau ac annog cyngor ac arweiniad gwell i gefnogi grwpiau sy’n ceisio gweithio mewn partneriaeth ag eraill i gryfhau’r prosiectau maen nhw’n eu cynnal yn eu cymunedau lleol.
Dim ond drwy gymryd cyfrifoldeb a meddwl yn wahanol am sut rydym yn gweithio gyda’n gilydd, o safbwynt y grantîs a’r rhai sy’n gwneud grant, y byddwn yn dod o hyd i atebion a fydd yn sicrhau dosbarthiad mwy teg o gyllid ac yn galluogi cyllidwyr y DU i gyflawni eu nodau’n well yng Nghymru.”
Gallwch ddarllen yr adroddiad yma.
I rannu’r adroddiad hwn a thrafod ei ganfyddiadau, mae Sefydliad Cymunedol Cymru, gyda chefnogaeth eu partner RBC Brewin Dolphin, yn cynnal trafodaeth bord gron fel rhan o Wythnos Cymru Llundain ar 1 Mawrth, rhwng 12 a 2pm.
Yn y digwyddiad byddwch yn clywed mewnwelediadau o’r adroddiad ac yn ymuno â thrafodaeth bwrdd crwn sy’n cynnwys:
- Alun Evans – Sefydliad Cymunedol Cymru, Cadeirydd
- Paul Mathias – Brewin Dolphin, Cyfarwyddwr Cynorthwyol
- Ruth Marks – WCVA, Prif Weithredwr
- Carol Mack – ACF, Prif Weithredwr
- Flora Craig – Sefydliad Garfield Weston, Dirprwy Gyfarwyddwr
- Andrea Powell – Sefydliad Cymunedol Cymru, Cyfarwyddwr Rhaglenni.
Gallwch archebu eich lle yma.