Cronfa Croeso Cenedl Noddfa
Yn ystod yr wythnosau diwethaf, mae terfysgoedd gwrth-fewnfudo wedi sbarduno trais diangen ac wedi ceisio lledaenu casineb mewn ardaloedd o'r DU. Yn Sefydliad Cymunedol Cymru, rydym wedi ein siomi'n fawr gan yr arddangosfeydd trallodus hyn o elyniaeth a hiliaeth, sydd wedi gadael llawer yn teimlo'n ddigroeso yn eu cartrefi eu hunain.
Drwy ein gwaith gydag elusennau llawr gwlad a grwpiau cymunedol ledled Cymru, gwyddom nad yw’r camau hyn yn adlewyrchu gwir ysbryd ein cymunedau amrywiol a chynhwysol. Mae ein cymunedau yn agored ac yn gefnogol, gan estyn croeso cynnes i’r rhai sydd wedi’u dadleoli gan wrthdaro ac yn ceisio noddfa yng Nghymru.
Mae’n amser i ddangos ein bod yn gryfach gyda’n gilydd.
Mae ein gwybodaeth helaeth am sefydliadau llawr gwlad a thrydydd sector yn golygu y gallwn gyrraedd yr elusennau a’r grwpiau cymunedol sy’n darparu’r math hwn o gefnogaeth, yn gyflym ac yn effeithlon.
Rydym yn gwybod bod sefydliadau sy’n helpu’r rhai sydd wedi’u dadleoli gan wrthdaro angen cymorth nawr yn fwy nag erioed, felly rydym yn apelio ar bobl a busnesau i gyfrannu at Gronfa Croeso Cenedl Noddfa fel y gallwn barhau i ddarparu cefnogaeth hanfodol i bobl sydd wedi’u dadleoli gan gwrthdaro a cheisio noddfa yng Nghymru.
Cronfa Croeso Cenedl Noddfa
Mae Cronfa Croeso Cenedl Noddfa yn darparu cefnogaeth hanfodol i elusennau, grwpiau cymunedol a sefydliadau Cymru sy’n gweithio gyda phobl sydd wedi’u dadleoli gan wrthdaro, y mae rhai ohonynt wedi cyrraedd Cymru yn ddiweddar, gan roi cymorth hanfodol iddynt a’u helpu i ymgartrefu yn eu hamgylchedd newydd.
Mae Cronfa Croeso Cenedl Noddfa wedi derbyn cyfraniadau hael gan Lywodraeth Cymru, Moondance a Gwendoline a Margaret Davies Elusen yn ogystal â nifer o roddion gan y cyhoedd yng Nghymru.