Cronfa Croeso Cenedl Noddfa

Bydd Cronfa Croeso Cenedl Noddfa yn darparu cefnogaeth hanfodol i bobl sy’n dianc o wrthdaro ac yn chwilio am noddfa yng Nghymru.

Bydd yr arian sy’n cael ei gyfrannu yn mynd i gefnogi elusennau, grwpiau cymunedol a chyrff Cymreig sy’n gweithio gyda pobl sy’n dianc o wrthdaro ac sydd wedi cyrraedd Cymru yn ddiweddar, gan ddarparu cymorth a chefnogaeth i setlo yn eu cartref newydd.

Cronfa Croeso Cenedl Noddfa

Mae ein gwybodaeth helaeth am sefydliadau llawr gwlad a’r trydydd sector yn golygu y gallwn gyrraedd yr elusennau a’r grwpiau cymunedol sy’n darparu’r math hwn o gymorth, yn gyflym ac yn effeithiol.

Mae Cronfa Croeso Cenedl Noddfa wedi derbyn cyfraniadau hael gan Lywodraeth Cymru, Moondance a Gwendoline a Margaret Davies Elusen yn ogystal â nifer o roddion gan y cyhoedd yng Nghymru.

Bydd yr holl roddion a dderbynnir yn ariannu sefydliadau sy’n gweithio ledled Cymru sy’n gweithio gydag unigolion a theuluoedd sy’n cyrraedd Cymru.