Gwella iechyd meddwl a llesiant pobl sy’n chwilio am noddfa yng Nghymru
“Rwyf wedi bod yn y DU am ddwy flynedd, ond dydw i ddim wedi astudio na gwneud unrhyw beth. Doedd gen i ddim gobaith. Roedd gen i egni negyddol trwy’r amser. Dim ond ar ôl ymuno a sesiynau Mind-Spring y penderfynais fynd i goleg. Rwy’n llawer mwy optimistig erbyn hyn ac eisiau bob yn rhan o unrhyw raglen y gallaf.”
Fadela, cyfranogwr Mind-Spring
Mae Oasis Cardiff yn cefnogi ffoaduriaid a cheiswyr lloches er mwyn eu cyfuno yn eu cymuned leol.
Gydol y pandemig roedden nhw’n addasu i allu dal ati gyda chefnogaeth wyneb yn wyneb trwy gasglu a danfon bwyd ac apwyntiadau un i un.
Un o’r heriau mawr roedden nhw’n ei wynebu yn ystod y cyfnod hwnnw oedd cefnogi eu cleientiaid gydag iechyd meddwl a theimladau o ynysu. Collwyd dau gleient trwy hunan laddiad yn ystod y pandemig ac roedd cynnydd mewn problemau iechyd meddwl, stres ac ynysu oherwydd bod llai o gyfle i gael cyswllt wyneb yn wyneb a chyfuno’n cymunedol.
Cafodd Oasis Carddif gefnogaeth grant gan Gronfa Gwytnwch Coronafeirws Cymru i redeg rhaglen Mind-Spring i wella iechyd meddwl ceiswyr lloches a ffoaduriaid a’u helpu hefyd i gyfuno’n gymdeithasol ac yn ddiwylliannol yn eu hamgylchedd newydd.
Cyfres o wyth o weithdai yw rhaglen Mind-Spring sy’n cynnwys pynciau megis ymdopi gyda stres, sut i ymdrin â cholled a galaru ac adeiladu dyfodol. Mae’n cael ei rhedeg gan geiswyr lloches a ffoaduriaid ar gyfer ceiswyr lloches a ffoaduriaid ac mae’n cael ei chyflwyno ym mam iaith y cyfranogwyr.
Meddai Wigdan, cyfranogwr yn y sesiynau:
“Ar ôl Mind-Spring dysgais sut i feddwl yn bositif. Dysgais hefyd ei fod yn well i unrhyw un sydd wedi profi colled i sefyll lan eto a cheisio cael yn ôl yr hyn y maen nhw wedi’i golli.”
Meddai cyfranogwr arall, Abdalla:
“Wrth gyrraedd, roeddwn i’n teimlon unig ac yn ynysig. Erbyn hyn, rwy’n teimlo fod gen i ‘Deulu’ ac rwy’n gallu rhannu fy mhrofiadau, trist a hapus, gyda’r grŵp. Roeddwn i wastad yn disgwyl ac yn cyfri’r dyddiau rhwng y sesiynau. Roedden ni’n dysgu am lawer o bethau na wydden ni ddim amdanyn nhw. Fe hoffwn i weld y rhaglen yn parhau. 10/10 i’r rhaglen hon.”