Cronfa Croeso Cenedl Noddfa

Cronfa Croeso Cenedl Noddfa

Bydd Cronfa Croeso Cenedl Noddfa yn darparu cefnogaeth hanfodol i bobl sy’n dianc o wrthdaro ac yn chwilio am noddfa yng Nghymru.

Bydd yr arian sy’n cael ei gyfrannu yn mynd i gefnogi elusennau, grwpiau cymunedol a chyrff Cymreig sy’n gweithio gyda pobl sy’n dianc o wrthdaro ac sydd wedi cyrraedd Cymru yn ddiweddar, gan ddarparu cymorth a chefnogaeth i setlo yn eu cartref newydd.

Mae ein gwybodaeth helaeth am sefydliadau llawr gwlad a’r trydydd sector yn golygu y gallwn gyrraedd yr elusennau a’r grwpiau cymunedol sy’n darparu’r math hwn o gymorth, yn gyflym ac yn effeithiol.

Bydd pob rhodd i’r gronfa yn mynd tuag at y sefydliadau a’r grwpiau hyn, gan sicrhau, pan fydd unigolion a theuluoedd yn cyrraedd Cymru, y gallant gael y cymorth sydd ei angen arnynt a dechrau’r broses o ailadeiladu eu bywydau.