Lle i fod yn greadigol a chwrdd â phobl newydd
“Ers darganfod The Wellbeing Room yn Y Lle, mae fy mywyd wedi bywiogi ar gymaint o lefelau. Mae’n belydryn o heulwen ac yn donig mawr ei angen, yn enwedig yn ystod cyfnodau heriol a misoedd gaeafol tywyll.”
Mae Tin Shed Theatre Co yn cysylltu cymunedau trwy’r celfyddydau creadigol mewn lleoliadau awyr agored, mannau cyhoeddus, safleoedd treftadaeth a strwythurau.
Cawsant grant tuag at eu gofod creadigol, Yr Ystafell Les, sy’n darparu gweithgareddau iechyd a lles wythnosol i bobl ifanc, (16 – 25), a’r rhai o’r gymuned leol.
Mae’r grant wedi eu helpu i gynnal dosbarthiadau wythnosol am ddim yn Qi Gong, Ioga, Myfyrdod, Dawns a’r celfyddydau gweledol yn Y Lle, Casnewydd. Mae gan y rhaglen Lles hefyd ofod rhandir sy’n cael ei redeg gan wirfoddolwyr.
Mae’r dosbarthiadau a’r rhandiroedd wedi bod yn achubiaeth i lawer o bobl yn y gymuned leol, gan gynnig mynediad at weithgareddau lles gwaeth beth fo’u hincwm.
Meddai Carmela, un o fynychwyr The Wellbeing Room yn Y Lle:
“Po fwyaf dwi’n mynd i’r Lle mwya’ dwi’n ei werthfawrogi fel oasis maethlon mewn byd llwm, rhanedig. Yn benodol, rwy’n credu mai’r ymdeimlad o gysylltiad â chymuned sy’n codi fy ysbryd ac yn gwneud i mi deimlo’n rhan o rywbeth mwy.
Dwi’n byw ar ben fy hun ac weithiau mae’r gymuned yno yn teimlo fel teulu estynedig efo awyrgylch parti tŷ!
Rwy’n hoffi’r ffordd y mae’r tîm calonogol, cefnogol yn agored i syniadau newydd, ac mae’n galonogol gweld faint o greadigrwydd sy’n cael ei ddatblygu neu ei arddangos yno.”