Cronfa Waddol Gymunedol Casnewydd
Casnewydd,
Mae’r rhaglen yma ar gau i geisiadau
Mae Cronfa Casnewydd yn cefnogi grwpiau cymunedol, elusennau lleol a mentrau cymdeithasol yng Nghasnewydd, De Cymru. Mae’r themâu a gaiff eu cefnogi yn cynnwys addysg, iechyd a llesiant, pobl ifanc a phrosiectau cymunedol.
Nod Cronfa Waddol Gymunedol Casnewydd yw cefnogi prosiectau sy’n cael eu rhedeg yn lleol ledled Dinas Casnewydd, sydd y tu allan i ddarpariaeth statudol, ond yn annog, cefnogi a hyrwyddo addysg a/neu iechyd a llesiant a bodloni un neu fwy o’r blaenoriaethau canlynol:
- Cymorth i rieni ifanc
- Prosiectau’r blynyddoedd cynnar
- Prosiectau sydd wedi’u lleoli mewn ysgolion sy’n cynnwys iechyd a ffyrdd iach o fyw
- Prosiectau cyflawni addysgol gan gynnwys dysgu gydol oes
- Prosiectau cynhwysiant addysgol
- Prosiectau ieuenctid
- Prosiectau iechyd a llesiant
Y grantiau sydd ar gael
Gellir defnyddio grantiau rhwng £200 a £2,000 i gefnogi gweithgaredd untro neu ar gyfer mân wariant cyfalaf.
Pwy all wneud cais?
- Grwpiau sydd wedi’u lleoli yn y gymuned ac sy’n cael eu rheoli’n lleol sy’n annog gwirfoddolwyr, Cymdeithasau Rhieni ac Athrawon neu ysgolion i gymryd rhan weithredol mewn prosiectau/mentrau sydd y tu allan i ddarpariaeth statudol (e.e. clybiau ar ôl ysgol neu glybiau brecwast, prosiectau garddio ac ati)
Rhoddir blaenoriaeth i grwpiau sydd â chronfeydd arian bach a mynediad cyfyngedig at gyllid grant. O ran ysgolion, gwneir ceisiadau gan y Gymdeithas Rhieni Athrawon neu Bwyllgor Rheoli Cronfa Breifat yr Ysgol yn ddelfrydol.
Sut i wneud cais?
Sicrhewch eich bod wedi darllen ac yn deall meini prawf y gronfa a’n safonau gofynnol cyn cwblhau eich cais.

Helpu plant a phobl ifanc i ddelio â’u galar
Darllen mwyGwnewch yn siŵr eich bod yn gymwys
Darllenwch y testun canlynol i sicrhau eich bod yn gymwys cyn dechrau'ch cais: