Cynnal cymorth i bobl agored i niwed

Cronfa Gwydnwch Coronavirus Cymru

Cynnal cymorth i bobl agored i niwed

“Mae grant Sefydliad Cymunedol Cymru wedi ein helpu i ddal ati i gynnig cefnogaeth lles trwy ein galluogi i ddal i dalu cyflogau staff a gwasanaethau cylch galw.”

Mae’r Canolfan Gwnsela yn Sir y Fflint yn gweithio ar draws y sir, yn darparu cefnogaeth sy’n fawr ei angen i bobl a theuluoedd bregus sy’n cael eu heffeithio’n uniongyrchol gan hunan laddiad, hunan niwed ac iselder. Mae’r gwasanaeth yn achubiaeth i’r rhai a fyddai’n ei chael hi’n anodd i gael gwasanaethau prif ffrwd oherwydd y gost.

Ers i Covid-19 ymddangos, bu cynnydd yn y gofyn am gefnogaeth y Ganolfan Gwnsela – oddi wrth gleientiaid hen a newydd. Mewn ymateb, mae wedi cynyddu’i ddarpariaeth cwnsela o bell ar frys i sicrhau ei fod yn gallu cyfarfod â’r gofyn am gefnogaeth ychwanegol yn ystod yr amser anodd yma.
Cafodd Hwb Cwnsela grant brys o £2,000 gan Sefydliad Cymunedol Cymru o’i Gronfa Gwydnwch Coronafeirws – a fydd yn helpu’r gwasanaeth i barhau gyda’i waith hanfodol yn darparu bwyd a gwasanaeth lles meddyliol i drigolion bregus Sir y Fflint.

Soniodd Paula Ringeval yn fanylach am y cyllid a gafodd y Ganolfan Gwnsela gan Sefydliad Cymunedol Cymru.

“Rydyn ni wedi dargyfeirio ein sefydliad yn sylweddol oherwydd y pandemig presennol o Covid-19 ac wedi cynyddu’n gwasanaeth dosbarthu bwyd yn enfawr o ddau ddiwrnod i chwe diwrnod yr wythnos. Rydyn ni’n dosbarthu i lawer o rieni sy’n ei chael yn anodd i ddarparu ar gyfer eu plant.

Rydyn ni’n danfon i 25 o gartrefi’r dydd. Yn garedig iawn, mae Aldi wedi cyfrannu 90% yn fwy i’n helusen. Mewn ymateb i’r gofyn lleol, mae Lidl hefyd yn cyfrannu i’n sefydliad erbyn hyn.

Hoffwn ddiolch i Sefydliad Cymunedol Cymru am ei gefnogaeth yn ystod yr hyn sy’n adeg anodd iawn i ni fel elusen ac fel cymdeithas.”

Stories

Cefnogi pobl ifanc i godi proffil teledu a ffilm Gymraeg

Cefnogi pobl ifanc i godi proffil teledu a ffilm Gymraeg

Cronfa Ddyngarol Cymru yn Llundain

Cefnogi talent gerddorol Gymreig

Cefnogi talent gerddorol Gymreig

Cronfa Ddyngarol Cymru yn Llundain

Helpu eraill trwy gerddoriaeth

Helpu eraill trwy gerddoriaeth

Cronfa Ddyngarol Cymru yn Llundain

Meithrin Cysylltiadau a Chefnogi Teuluoedd

Meithrin Cysylltiadau a Chefnogi Teuluoedd

Cronfa i Gymru