Y set ffilm sy’n arbed bywydau plant
“Drwy dalu costau trafnidiaeth pedair ysgol yn Wrecsam, gwnaethom alluogi 130 o blant i gymryd rhan mewn rhaglen addysg diogelwch rhyngweithiol PentrePeryglon.”
Mae PentrePeryglon yn addysgu plant a phobl ifanc i fod yn ymwybodol o ddiogelwch er mwyn lleihau’r achosion o farwolaethau ac anafiadau damweiniol a hyrwyddo iechyd, llesiant a diogelwch yn y gymuned. Dyfarnwyd £700 i’r rhaglen er mwyn galluogi disgyblion o bum ysgol yn Sir y Fflint i fynd i’w chanolfan diogelwch rhyngweithiol drwy gyllido’r gost o deithio i’r ganolfan.
Mae PentrePeryglon yn cynnig cyfle i ymwelwyr ddysgu am ddiogelwch mewn ffordd llawn hwyl a rhyngweithiol. Mae’r ganolfan wedi’i chynllunio fel set ffilm. Mae ymwelwyr yn teithio o’r cartref, i’r traeth, i gefn gwlad, i’r maes chwarae, i’r fferm ac i leoliadau eraill, er mwyn dysgu am risgiau a sut i gadw’n ddiogel.
Drwy’r cyllid hwn, roedd PentrePeryglon yn gallu talu costau trafnidiaeth i’r ganolfan ar gyfer 130 o ddisgyblion o bum ysgol yn Sir y Fflint. Heb y cymorth ariannol hwn, ni fyddai’r plant wedi gallu mynd i ganolfan diogelwch rhyngweithiol PentrePeryglon.
Dywedodd y plant fod y daith diogelwch addysgol yn ddiddorol, a gwnaeth yr athrawon ganmol ansawdd a dyfnder y wybodaeth a roddir i’w disgyblion, gydag un athro yn nodi ei bod yn ‘bwysig clywed a pharhau i glywed y negeseuon yn rheolaidd’.