Cronfa Gymunedol Uchel Siryf Gwent yn gwobrwyo grantiau i 21 o grwpiau cymunedol eto eleni

Ymgasglodd grwpiau cymunedol o bob cwr o Went yng Nghaerffili fore Sadwrn (y 24ain o Fawrth) i wneud cynnig am gyfran o bot grantiau gwerth £75,000 oddi wrth Gronfa Gymunedol Uchel Siryf Gwent.

Roedd y digwyddiad unigryw hwn, a gynhaliwyd gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili, yn bartneriaeth rhwng Cronfa Gymunedol Uchel Siryfion Gwent, Swyddfa Comisiynydd Heddlu a Throseddu Gwent a’r Sefydliad Cymunedol yng Nghymru i ddyfarnu grantiau o hyd at £5,000 i grwpiau cymunedol ledled Gwent. Mae’r fformat arloesol o roi grantiau yn galluogi pobl leol i flaenoriaethu datrysiadau i faterion lleol ac i gefnogi mentrau llawr gwlad sy’n cael gwir effaith ar fywydau pobl.

Rhoddodd y digwyddiad amlygrwydd i 25 o grwpiau a gawsai ddau funud yr un i ‘werthu’ eu prosiect, gyda phob un cyflwyniad yn derbyn sgôr gan y grwpiau eraill. Enillodd y prosiectau, a aseswyd gan eu cymheiriaid fel prosiectau oedd yn rhoi sylw i’r materion pwysicaf, gyfran o bot grantiau gwerth £75,000. Roedd fformat y digwyddiad yn cynnig ffordd arall i bobl o gyfathrebu’u hanesion, gan eu galluogi i rannu’u hegni a’u hymrwymiad â mudiadau cymunedol eraill a leolir yng Ngwent.

Y dathliad gwneud grantiau yw uchafbwynt calendr Cronfa Gymunedol Uchel Siryfion Gwent ac mae’n benllanw blwyddyn o godi arian gan Uchel Siryf cyfredol Gwent, Mr Kevin Thomas. Daw cyfraniad sylweddol tuag at y pot grantiau hefyd o arian comisiynu a ddelir gan y Comisiynydd Heddlu a Throseddu, Mr Jeff Cuthbert.

Mae Cronfa Gymunedol Uchel Siryf Gwent yn gweithio’n galed i greu cymunedau diogelach yng Ngwent drwy gefnogi prosiectau sydd bennaf oll yn mentora ac yn ysbrydoli pobl ifanc i gyflawni’u potensial. Mae’r digwyddiad yn gyfle i ddathlu gwaith caled ac ymroddiad gwirfoddolwyr a grwpiau cymunedol sy’n gwneud cymaint i wella bywydau pobl yng Ngwent.

Dywedodd Richard Williams, Prif Weithredwr y Sefydliad Cymunedol yng Nghymru, wrth siarad am y digwyddiad:

“Rydym wrth ein bodd o fod yn gysylltiedig â digwyddiad arloesol o’r fath a lywir gan y gymuned. Mae heddiw wedi amlygu’r gwaith hanfodol y mae mudiadau cymunedol yn ei wneud i wella bywydau pobl ac i gryfhau cymunedau ledled rhanbarth Gwent. Mae heddiw’n hyrwyddo’n hymrwymiad dros wneud grantiau mewn modd agored, tryloyw, a galluogi pobl leol, sy’n deall yr anghenion yn eu cymunedau orau, i flaenoriaethu datrysiadau i faterion lleol.

Un o’r pethau gwych am Eich Llais Chi, Eich Dewis Chi yw ei fod yn rhoi ffordd i grwpiau cymunedol rannu’u hanesion, yn aml drwy eiriau’r bobl sy’n elwa o’r gwaith hwnnw. Mae o hefyd yn eu galluogi i gysylltu â grwpiau eraill sy’n gwneud gwaith cyffelyb. Gall y broses hon o rannu a dysgu arwain at bartneriaethau newydd a syniadau newydd i fynd â nhw adref i’w cymunedau unigol eu hunain.

Mae arnom eisiau diolch i bawb a gymerodd ran, yn enwedig am y bywiogrwydd, y lliw a’r egni wrth iddynt rannu’u hanesion â ni heddiw.”

Dywedodd Kevin Thomas, Uchel Siryf Gwent 2017—18:

“Mae yna ddealltwriaeth gyffredinol o sut mae cymuned gryfach nid yn unig yn gwneud ei haelodau’n ddedwyddach, ond ei bod hefyd yn iachach ac yn ddiogelach. Dyma yw holl ddiben Cronfa Gymunedol Uchel Siryfion Gwent: ein nod yw darparu amgylchedd diogelach a gwell ansawdd bywyd ar gyfer pobl Gwent drwy gefnogi mentrau a leolir yn y gymuned sy’n mentora ac yn cynorthwyo pobl ifanc. Heddiw, fe welsom gyflwyniadau ysbrydoledig gan y 25 o grwpiau sydd ar y rhestr fer. Llongyfarchiadau i’r grwpiau i gyd oedd yn llwyddiannus heddiw, a fy niolchiadau twymgalon iddynt am y llawer iawn o ffyrdd y maent yn gwella’n hansawdd bywyd.”

Y mudiadau llwyddiannus yn nigwyddiad 2018 oedd fel a ganlyn:

  • Live Music Now Cymru
  • Vision of Hope with Animal Assisted Therapy
  • Ieuenctid Afon
  • Cymru Creations
  • Cymdeithas Gŵyl Maendy
  • Canolfan Plant Anabl TOG
  • Shaftesbury Youf Gang
  • 2ail Sgowtiaid Cil-y-Coed
  • Clwb Ieuenctid Abertyleri
  • Band Pres Glyn Ebwy
  • Canolfan Gymunedol Bridges
  • G-Expressions
  • Dance Blast
  • Rhieni Gwybodaeth Chwarae Torfaen (POPIT)
  • 3ydd Geidiau Sant Cadocs, Pont-y-pŵl
  • Clwb Criced Malpas
  • 9fed Browniaid Gogledd Casnewydd
  • Ieuenctid N2T Youth
  • Faith Christian Center UK (Canolfan Gristnogol y Ffydd y DU)
  • Cyfeillion Gwarchodfa Natur Leol Henllys
  • Clwb Celf Thornhill

News

Gweld y cyfan
Anrhydeddu sêr Hollywood a dyngarwr lleol am eu cyfraniadau eithriadol i gymunedau Gogledd Cymru

Anrhydeddu sêr Hollywood a dyngarwr lleol am eu cyfraniadau eithriadol i gymunedau Gogledd Cymru

Y galon mor bwysig a’r meddwl wrth greu ymddiriedolwyr ymroddedig

Y galon mor bwysig a’r meddwl wrth greu ymddiriedolwyr ymroddedig

Pam mae eich stori yn bwysig

Pam mae eich stori yn bwysig

Gymaint mwy na jest adroddiad arall…

Gymaint mwy na jest adroddiad arall…