Dathlu 20 mlynedd o wneud gwahaniaeth mewn cymunedau ledled Cymru

Daeth grwpiau cymunedol, cyfranwyr a chefnogwyr ynghyd i ddathlu 20fed pen-blwydd Sefydliad Cymunedol Cymru yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru.

Noddwyd y digwyddiad arbennig hwn gan Brewin Dolphin a oedd yn arddangos y bobl a’r grwpiau mae Sefydliad Cymunedol Cymru’n gweithio ac yn cysylltu gyda nhw a sut maen nhw’n gwneud gwahaniaeth mewn cymunedau ledled Cymru.

Soniodd y Ministry of Life, grŵp sy’n cysylltu â phobl ifanc anodd eu cyrraedd trwy gerddoriaeth, y cyfryngau a’r celfyddydau, sut y mae’r grantiau y maen nhw wedi’u derbyn oddi wrth Sefydliad Cymunedol Cymru wedi’u helpu i ariannu prosiectau ieuenctid yng Nghaerdydd a Chasnewydd.

Soniodd un o’r bobl ifanc drwy air o brofiad personol sut y llwyddodd hi i ddatblygu sgiliau a chynyddu ei hyder drwy fynychu’r Ministry of Life. Meddai Sabrina:

“Fe ddechreuais i fynd i’r Ministry of Life yn 14 oed. Roeddwn i’n eithaf tawel ond ar ôl mynd ar ychydig o deithiau gyda’r plant eraill, roedd fy hyder yn cynyddu. Es yn fy mlaen i wirfoddoli am ddwy flynedd ac yna dod yn weithiwr ieuenctid. Roedd Ministry of Life wedi fy helpu gyda’m hyder, i gydweithio ac i weithio fel tîm ac fe helpodd hynny i mi gael lle yn y brifysgol.”

Roedd y dathliad hefyd yn nodi lansio Cyfeillion Sefydliad Cymunedol Cymru – rhwydwaith unigryw sy’n dod ag unigolion a sefydliadau o’r un feddylfryd ynghyd i helpu newid bywydau mewn cymunedau ledled Cymru.

Dyma’r ail ddigwyddiad sy’n anrhydeddu ac yn nodi’r 20 mlynedd y bu Sefydliad Cymunedol Cymru yn ysbrydoli pobl i roi a helpu cymunedau Cymru i ffynnu a newid bywydau gyda’i gilydd.

Meddai Richard Williams, Prif Weithredwr Sefydliad Cymunedol Cymru:

“Yn ystod ein 20 mlynedd cyntaf, mae’r tîm yn Sefydliad Cymunedol Cymru wedi gweithio gyda rhoddwyr i fuddsoddi mwy na £25 miliwn mewn cymunedau ledled Cymru. Mae hynny wedi galluogi pobl i gynnal prosiectau ffantastig, megis y Ministry of Life, sy’n gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i’w cymuned leol.
Mewn cyfnod fel yr un presennol, mae datblygu rhoddi dyngarol yn bwysicach nag erioed i gynnal cymunedau cryfach ac i helpu pobl i ddod at ei gilydd er mwyn gyrru newid.

Roedd ein digwyddiad yn dathlu’r cyflawniad ffantastig hwn ac yn edrych ymlaen at ein cynlluniau cyffrous i ddal ati i dyfu a gwneud hyn yn oed fwy o wahaniaeth i bobl a chymunedau yng Nghymru.”

News

Gweld y cyfan
Anrhydeddu sêr Hollywood a dyngarwr lleol am eu cyfraniadau eithriadol i gymunedau Gogledd Cymru

Anrhydeddu sêr Hollywood a dyngarwr lleol am eu cyfraniadau eithriadol i gymunedau Gogledd Cymru

Y galon mor bwysig a’r meddwl wrth greu ymddiriedolwyr ymroddedig

Y galon mor bwysig a’r meddwl wrth greu ymddiriedolwyr ymroddedig

Pam mae eich stori yn bwysig

Pam mae eich stori yn bwysig

Gymaint mwy na jest adroddiad arall…

Gymaint mwy na jest adroddiad arall…