Digwyddiad arloesol cyflwyno grantiau’n rhoi grantiau gwerth £75,000 i helpu grwpiau cymunedol ledled Gwent
Community groups from across Gwent gathered in Monmouth to bid for a share of a grants pot worth around £75,000 from the Gwent High Sheriffs’ Community Fund.
Daeth grwpiau cymunedol o bob rhan o Went i Drefynwy i geisio am gyfran o gronfa grantiau gwerth tua £75,000 o Gronfa Gymunedol Uchel Siryf Gwent.
Gyda chefnogaeth Cyngor Sir Mynyw yn 2019, digwyddiad rhwng partneriaid yw ‘Eich Llais Eich Dewis’ rhwng Cronfa Gymunedol Uchel Siryf Gwent, Swyddfa Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gwent a’r Sefydliad Cymunedol yng Nghymru i gyflwyno grantiau gwerth hyd at £5,000 i grwpiau cymunedol ledled Gwent.
Mae’r digwyddiad yn cael ei redeg ar ffurf arloesol sy’n galluogi pobl leol i flaenoriaethu atebion i broblemau lleol a chefnogi mentrau ar y ddaear sy’n gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau pobl.
Daeth 24 o grwpiau i Eich Llais Eich Dewis, pob un yn cael dau funud i gyflwyno eu prosiect gyda phob cyflwyniad yn derbyn sgôr gan y grwpiau eraill. Cafodd y prosiectau oedd yn cael eu hystyried yn talu sylw i’r problemau pennaf gyfran o’r grantiau gwerth £75,000 oedd ar gael.
Roedd y digwyddiad yn llwyfan i grwpiau lleol gyflwyno eu storïau yn eu ffordd eu hunan a rhannu eu hegni a’u hymroddiad i wella bywydau yng Ngwent.
Eleni, am y tro cyntaf, cyflwynwyd grant tair blynedd, i gefnogi cynaliadwyedd. Dyfarnwyd y grant hwn i Cymru Creations. Ond, doedd y grwpiau aflwyddiannus ddim yn mynd oddi yno’n waglaw. Cafodd pob un gyfraniad o £500 ar gyfer eu prosiect.
Y dathliad cyflwyno grantiau hwn yw uchafbwynt calendar Cronfa Gymunedol Uchel Siryf Gwent a phenllanw blwyddyn o godi arian gan Uchel Siryf presennol Gwent, Sharon Linnard. Daw cyfran arwyddocaol i’r gronfa grantiau hefyd gan y Comisiynydd Heddlu a Throsedd, Jeff Cuthbert.
Mae Cronfa Gymdeithasol Uchel Siryf Gwent yn gweithio’n galed i adeiladu cymunedau diogelach yng Ngwent drwy gefnogi prosiectau sy’n mentora ac yn ysbrydoli pobl ifanc i wireddu eu potensial. Mae’r digwyddiad yn gyfle i ddathlu gwaith caled ac ymroddiad y gwirfoddolwyr a’r grwpiau cymunedol sy’n gwneud cymaint i well bywydau pobl yng Ngwent.
Meddai Richard Williams, Prif Weithredwr y Sefydliad Cymunedol yng Nghymru, wrth sôn am y digwyddiad:
“Rydyn ni wrth ein bodd bod yn rhan o ddigwyddiad mor arloesol sy’n cael ei yrru gan y gymuned. Mae heddiw wedi dangos y gwaith hanfodol y mae sefydliadau cymunedol yn ei wneud i wella bywydau pobl ac i gryfhau cymunedau ar draws rhanbarth Gwent.
Mae’r math hwn o ddigwyddiad yn ymestyn ein hymrwymiad i fod yn dryloyw ac yn agored wrth roi grantiau a galluogi pobl leol, sy’n deall anghenion eu cymunedau orau, i flaenoriaethu atebion i broblemau lleol.
Un o’r pethau gorau am Eich Llais Eich Dewis yw ei fod yn rhoi cyfle i grwpiau cymunedol rannu’u hanesion, yn aml trwy eiriau’r bobl sy’n elwa’n uniongyrchol o’r gwaith hwnnw. Mae hefyd yn eu galluogi i gysylltu gyda grwpiau eraill sy’n gwneud gwaith tebyg. Mae’r broses hon o rannu a dysgu’n gallu arwain at bartneriaethau newydd a datblygu syniadau newydd i fynd yn ôl i’w cymunedau.
Rydym eisiau diolch i bawb a gymerodd ran, yn enwedig am eu hegni a’u bywiogrwydd wrth iddyn nhw’n rhannu’u hanesion gyda ni heddiw.”
Meddai Sharon Linnard, Uchel Siryf Gwent 2018 – 19:
“Mae digwyddiad heddiw wedi taflu goleuni ar y gwaith ffantastig sy’n cael ei wneud ar y ddaear i helpu plant a phobl ifanc ledled Gwent i gyrraedd eu potensial.
Roedd y cyflwyniadau gan y grwpiau’n wirioneddol ysbrydoledig ac yn amlygu ymrwymiad ac angerdd pobl sy’n rhoi eu hamser a’u hegni i wneud cymunedau ledled Gwent yn ddiogelach ac yn gryfach fel lleoedd i fyw.
Hoffwn ddiolch i’r holl gefnogwyr sydd wedi gwneud y digwyddiad hwn yn bosibl. Yn benodol, hoffwn gydnabod haelioni Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd, Mr Jeff Cuthbert, Sefydliad Waterloo a Sefydliad Newbridge. Mae’u cefnogaeth ariannol wedi’n galluogi i ariannu {nifer} o brosiectau a fydd yn helpu i newid dyfodol pobl ifanc ar draws ein sir.”
Mae’r sefydliadau llwyddiannus yn nigwyddiad 2019 fel a ganlyn:
- Cymru Creations
- Celfyddydau Tredegar
- Grŵp Ffocws Rhieni
- Legup
- Camdrin Domestig Pheonix
- Cyfeillion Rewild Play
- Ieuenctid Afon
- Shaftesbury Youf
- Ieuenctid Blaenafon a Phont-y pŵl
- Ministry of Life
- Gŵyl Maindee
- Cyfeillion Gwarchodfa Natur Leol Henlys
- Made in Tredegar
- Clwb Ieuenctid Glyn Ebwy
- Newport City Radio
- Dance Blast
- Gweithgaredd Ysgubor Treddyn
- Tillery Action for You
- Clwb Celf Thornhill
- Canolfan Gymunedol Bridges