Digwyddiad arloesol cyflwyno grantiau’n rhoi grantiau gwerth £75,000 i helpu grwpiau cymunedol ledled Gwent

Digwyddiad arloesol cyflwyno grantiau’n rhoi grantiau gwerth £75,000 i helpu grwpiau cymunedol ledled Gwent

Community groups from across Gwent gathered in Monmouth to bid for a share of a grants pot worth around £75,000 from the Gwent High Sheriffs’ Community Fund.

Daeth grwpiau cymunedol o bob rhan o Went i Drefynwy i geisio am gyfran o gronfa grantiau gwerth tua £75,000 o Gronfa Gymunedol Uchel Siryf Gwent.
Gyda chefnogaeth Cyngor Sir Mynyw yn 2019, digwyddiad rhwng partneriaid yw ‘Eich Llais Eich Dewis’ rhwng Cronfa Gymunedol Uchel Siryf Gwent, Swyddfa Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gwent a’r Sefydliad Cymunedol yng Nghymru i gyflwyno grantiau gwerth hyd at £5,000 i grwpiau cymunedol ledled Gwent.
Mae’r digwyddiad yn cael ei redeg ar ffurf arloesol sy’n galluogi pobl leol i flaenoriaethu atebion i broblemau lleol a chefnogi mentrau ar y ddaear sy’n gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau pobl.
Daeth 24 o grwpiau i Eich Llais Eich Dewis, pob un yn cael dau funud i gyflwyno eu prosiect gyda phob cyflwyniad yn derbyn sgôr gan y grwpiau eraill.  Cafodd y prosiectau oedd yn cael eu hystyried yn talu sylw i’r problemau pennaf gyfran o’r grantiau gwerth £75,000 oedd ar gael.
Roedd y digwyddiad yn llwyfan i grwpiau lleol gyflwyno eu storïau yn eu ffordd eu hunan a rhannu eu hegni a’u hymroddiad i wella bywydau yng Ngwent.
Eleni, am y tro cyntaf, cyflwynwyd grant tair blynedd, i gefnogi cynaliadwyedd.  Dyfarnwyd y grant hwn i Cymru Creations.  Ond, doedd y grwpiau aflwyddiannus ddim yn mynd oddi yno’n waglaw.  Cafodd pob un gyfraniad o £500 ar gyfer eu prosiect.
Y dathliad cyflwyno grantiau hwn yw uchafbwynt calendar Cronfa Gymunedol Uchel Siryf Gwent a phenllanw blwyddyn o godi arian gan Uchel Siryf presennol Gwent, Sharon Linnard. Daw cyfran arwyddocaol i’r gronfa grantiau hefyd gan y Comisiynydd Heddlu a Throsedd, Jeff Cuthbert.
Mae Cronfa Gymdeithasol Uchel Siryf Gwent yn gweithio’n galed i adeiladu cymunedau diogelach yng Ngwent drwy gefnogi prosiectau sy’n mentora ac yn ysbrydoli pobl ifanc i wireddu eu potensial.  Mae’r digwyddiad yn gyfle i ddathlu gwaith caled ac ymroddiad y gwirfoddolwyr a’r grwpiau cymunedol sy’n gwneud cymaint i well bywydau pobl yng Ngwent.
Meddai Richard Williams, Prif Weithredwr y Sefydliad Cymunedol yng Nghymru, wrth sôn am y digwyddiad:
“Rydyn ni wrth ein bodd bod yn rhan o ddigwyddiad mor arloesol sy’n cael ei yrru gan y gymuned. Mae heddiw wedi dangos y gwaith hanfodol y mae sefydliadau cymunedol yn ei wneud i wella bywydau pobl ac i gryfhau cymunedau ar draws rhanbarth Gwent.
Mae’r math hwn o ddigwyddiad yn ymestyn ein hymrwymiad i fod yn dryloyw ac yn agored wrth roi grantiau a galluogi pobl leol, sy’n deall anghenion eu cymunedau orau, i flaenoriaethu atebion i broblemau lleol.
Un o’r pethau gorau am Eich Llais Eich Dewis yw ei fod yn rhoi cyfle i grwpiau cymunedol rannu’u hanesion, yn aml trwy eiriau’r bobl sy’n elwa’n uniongyrchol o’r gwaith hwnnw. Mae hefyd yn eu galluogi i gysylltu gyda grwpiau eraill sy’n gwneud gwaith tebyg. Mae’r broses hon o rannu a dysgu’n gallu arwain at bartneriaethau newydd a datblygu syniadau newydd i fynd yn ôl i’w cymunedau.
Rydym eisiau diolch i bawb a gymerodd ran, yn enwedig am eu hegni a’u bywiogrwydd wrth iddyn nhw’n rhannu’u hanesion gyda ni heddiw.”
Meddai Sharon Linnard, Uchel Siryf Gwent 2018 – 19:
“Mae digwyddiad heddiw wedi taflu goleuni ar y gwaith ffantastig sy’n cael ei wneud ar y ddaear i helpu plant a phobl ifanc ledled Gwent i gyrraedd eu potensial.
Roedd y cyflwyniadau gan y grwpiau’n wirioneddol ysbrydoledig ac yn amlygu ymrwymiad ac angerdd pobl sy’n rhoi eu hamser a’u hegni i wneud cymunedau ledled Gwent yn ddiogelach ac yn gryfach fel lleoedd i fyw.
Hoffwn ddiolch i’r holl gefnogwyr sydd wedi gwneud y digwyddiad hwn yn bosibl. Yn benodol, hoffwn gydnabod haelioni Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd, Mr Jeff Cuthbert, Sefydliad Waterloo a Sefydliad Newbridge. Mae’u cefnogaeth ariannol wedi’n galluogi i ariannu {nifer} o brosiectau a fydd yn helpu i newid dyfodol pobl ifanc ar draws ein sir.”
Mae’r sefydliadau llwyddiannus yn nigwyddiad 2019 fel a ganlyn:
  • Cymru Creations
  • Celfyddydau Tredegar
  • Grŵp Ffocws Rhieni
  • Legup
  • Camdrin Domestig Pheonix
  • Cyfeillion Rewild Play
  • Ieuenctid Afon
  • Shaftesbury Youf
  • Ieuenctid Blaenafon a Phont-y pŵl
  • Ministry of Life
  • Gŵyl Maindee
  • Cyfeillion Gwarchodfa Natur Leol Henlys
  • Made in Tredegar
  • Clwb Ieuenctid Glyn Ebwy
  • Newport City Radio
  • Dance Blast
  • Gweithgaredd Ysgubor Treddyn
  • Tillery Action for You
  • Clwb Celf Thornhill
  • Canolfan Gymunedol Bridges

 

News

Gweld y cyfan
Gymaint mwy na jest adroddiad arall…

Gymaint mwy na jest adroddiad arall…

Mae digwyddiad ‘Eich Llais, Eich Dewis’ yn dod â grwpiau cymunedol o bob rhan o Went at ei gilydd

Mae digwyddiad ‘Eich Llais, Eich Dewis’ yn dod â grwpiau cymunedol o bob rhan o Went at ei gilydd

Yr heriau cynyddol sy’n wynebu ymddiriedolwyr elusennau

Yr heriau cynyddol sy’n wynebu ymddiriedolwyr elusennau

Grymuso sefydliadau: Cryfhau arferion llywodraethu a diogelu

Grymuso sefydliadau: Cryfhau arferion llywodraethu a diogelu