Grantiau Dydd Gŵyl Dewi i helpu dau o bobl ifanc i ddilyn gradd Meistr

 

Cafodd dau dderbynnydd grant lwcus o Gronfa Ddyngarol Cymru yn Llundain eu cyhoeddi yn y cinio Dydd Gŵyl Dewi blynyddol yn y Guildhall.

Mi fydd Ffian Jones yn defnyddio’r grant a ddyfarnwyd gan Gronfa Ddyngarol Cymru yn Llundain i gefnogi ei gradd Meistr mewn Dylunio Dillad Dynion yn y Coleg Gelf Frenhinol. Mae Ffian yn defnyddio ei gwaith mewn ffasiwn fel cyfle i ddod â phobl ynghyd ac mae hi’n angerddol am adfywio iechyd a lles cymunedau yng Nghymoedd De Cymru trwy ei chreadigaethau.

Uchelgeisiau gyrfa David Sintons yw datblygu polisïau a all ehangu symudedd cymdeithasol a hyrwyddo’r cyfleoedd sydd ar gael i unigolion a grwpiau o gefndiroedd difreintiedig. Mi fydd grant o’r Gronfa Ddyngarol Cymru yn Llundain yn ei gefnogi i wneud gradd Meistr yn Ysgol Economeg Llundain.

Mae cronfa ddyngarol Cymru yn Llundain, a reolir gan Sefydliad Cymunedol Cymru, yn cefnogi pobl ifanc a gafodd eu geni a/neu eu haddysgu yng Nghymru i ddatblygu eu sgiliau addysg, dysgu, busnes a gyrfa, ac ehangu eu gorwelion yn Llundain neu’r tu allan i Gymru. Gallwch gael rhagor o wybodaeth am y gronfa yma.

News

Gweld y cyfan
Dros £1.3m wedi’i ddyfarnu mewn grantiau i gefnogi cymunedau Cymru drwy argyfwng costau byw

Dros £1.3m wedi’i ddyfarnu mewn grantiau i gefnogi cymunedau Cymru drwy argyfwng costau byw

Sefydliad Cymunedol Cymru yn ennill statws Cynnig Cymraeg

Sefydliad Cymunedol Cymru yn ennill statws Cynnig Cymraeg

Ymddiriedolaeth, tryloywder, a chydbwysedd cain wrth roi i elusennau

Ymddiriedolaeth, tryloywder, a chydbwysedd cain wrth roi i elusennau

Gwneud grantiau’n fwy hygyrch gyda Easy Read

Gwneud grantiau’n fwy hygyrch gyda Easy Read