Cronfa Cenedlaethau’r Dyfodol Cymdeithas Adeiladu’r Principality

Abertawe, Blaenau Gwent, Bro Morgannwg, Caerffili, Casnewydd, Castell-nedd Port Talbot, Ceredigion, Conwy, Dinas Caerdydd, Gwynedd, I gyd, Merthyr Tudful, Pen-y-bont ar Ogwr, Powys, Rhondda Cynon Taf, Sir Ddinbych, Sir Fynwy, Sir Gar, Sir Penfro, Sir y Fflint, Torfaen, Wrecsam, a Ynys Môn

Mae’r rhaglen yma ar gau i geisiadau

Cronfa Cenedlaethau'r Dyfodol Cymdeithas Adeiladu'r Principality yn awr yn gau i geisiadau. Byddem hefyd yn argymell eich bod yn cofrestru i dderbyn ein Cylchlythyr Grantiau i gael y wybodaeth ddiweddaraf am unrhyw ddatblygiadau.

Cronfa Cymru gyfan yw Cronfa Cenedlaethau’r Dyfodol Cymdeithas Adeiladu’ Principality a sefydlwyd mewn partneriaeth â Chymdeithas Adeiladu’r Principality gyda’r nod o ddylanwadu’n bositif ar gymdeithas ac ar fywydau pobl ifanc yng Nghymru.

Bydd y gronfa’n cefnogi’r trydydd sector a sefydliadau cymunedol ledled Cymru i helpu / annog

  • Mwy o bobl ifanc yn cael mynediad at fwyd iach ac eitemau hanfodol eraill gan gynnwys dillad, deunydd ysgrifennu a thechnoleg.
  • Mwy o bobl ifanc i adeiladu cadernid ariannol ar gyfer ansicrwydd bywyd
  • Mwy o bobl ifanc yn paratoi ar gyfer y dyfodol a byd gwaith (gan gynnwys meithrin sgiliau)
  • Mwy o bobl ifanc yn byw’n gynaliadwy ac yn cymryd rhan mewn gwarchod ein hamgylchedd naturiol
  • Mwy o bobl ifanc yn cael y cymorth iechyd meddwl y mae arnynt ei angen

Bydd y prosiectau rydym yn eu cefnogi’n bodloni un o’r themâu hyn –

  • Datblygu hyfforddiant a / neu sgiliau ar gyfer cyflogaeth
  • Cefnogi iechyd meddwl a llesiant
  • Dysgu sgiliau ariannol (e.e. cynilo a chyllidebu)
  • Ymwybyddiaeth amgylcheddol a / neu gymdeithasol a chadwraethol
  • Cynnal gweithdai ar draws unrhyw un o’r themâu uchod e.e. coginio’n iach ar gyllideb, siopa wythnosol craff,
  • Cefnogi ymyriadau sy’n helpu disgyblion/myfyrwyr â bywyd ysgol a rhoi’r cyfleoedd gorau iddyn nhw am lwyddo

Byddwn yn blaenoriaethu sefydliadau a phrosiectau sy’n ei gwneud yn haws i’r rhai sy’n cael eu tan-wasanaethu neu’n fregus fanteisio ar y gronfa. Mae hyn yn cynnwys prosiectau sy’n cefnogi unigolion gyda chefndir o nodweddion gwarchodedig, deddf cydraddoldeb 2010 ac unigolion o rai o gymunedau mwyaf difreintiedig Cymru.

Grantiau ar gael

  • Grantiau hyd at £12,500 y flwyddyn am hyd at 2 flynedd yn cael eu dyfarnu i sefydliadau’r trydydd sector, i gefnogi pobl ifanc o dan 40 mlwydd oed yng Nghymru.

Pwy sy’n gallu ymgeisio?

Sefydliadau sydd ag incwm o dan £500,000 yn y flwyddyn ariannol ddiwethaf.

  • Grwpiau gyda chyfansoddiad/Cymdeithas Anghorfforedig
  • Elusennau Cofrestredig a Sefydliadau Corfforedig Elusennol (CIO)
  • Cwmni cyfyngedig dan warrant (nid er mwyn elw preifat)
  • Cwmnïau Budd Cymunedol (CIC)
  • Mentrau Cymdeithasol

Bydd yn rhaid i’r sefydliad cyfarfod â’n hisafswm gofynnol, y gellir eu gweld yma – Isafswm Safonau a Ddisgwylir.

Safonau Disgwyliedig Gofynnol

Sylwer nad ydych yn gymwys i wneud cais os oes gennych grant gweithredol o’r gronfa hon e.e. a ddyfarnwyd yn y 12 mis diwethaf.

Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol 2015

Bwriad Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 yw gwella llesiant cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol Cymru. Mae’n gofyn i sefydliadau yng Nghymru ystyried effeithiau tymor hir eu penderfyniadau, i weithio’n well gyda phobl a cymunedau a gyda’i gilydd a rhwystro problemau parhaus rhag codi, megis tlodi, anghydraddoldebau iechyd a newid hinsawdd.

Rydym yn awyddus i annog sefydliadau i feddwl nid yn unig am y gymuned ble maen nhw’n byw ac yn gweithio ynddi, ond hefyd sut mae’u gwaith yn gydnaws â ac yn cyd-fynd â gwasanaethau a gweithgareddau grwpiau a sefydliadau eraill, rhai gwirfoddol a rhai statudol. Fe hoffen ni i chi ystyried sut y gallai’ch sefydliad weithio gydag eraill er mwyn ychwanegu gwerth a gweithio mewn partneriaeth yn hytrach na chystadlu. Cofiwch egluro yn eich cais eich cynlluniau ar gyfer y dyfodol yn ogystal ag ar gyfer y presennol. Fe hoffen ni weld sut mae grwpiau’n gweld effeithiau tymor hir eu penderfyniadau er mwyn gallu gweithio gyda, ar y cyd, ag eraill.

Sut i wneud cais?

Rhaid i ymgeiswyr lenwi ffurflen gais ar-lein cyn y 12 hanner dydd ar ddydd Mercher 8 Chwefror 2022.
DS. Rydych yn gallu trefnu galwad gyda Swyddog Grantiau i gael cefnogaeth ac i ofyn unrhyw gwestiynau sydd ganddoch ac i gwblhau eich ffurflenni cais. Archebwch slot drwy glicio ar y bwtwm uchod.

Sylwer

  • Rhaid gwario grantiau’n llawn o fewn blwyddyn i dderbyn ein llythyr cynnig.
  • Ni fydd grantiau’n cael eu dyfarnu’n ôl-weithredol h.y. ar gyfer costau a ysgwyddwyd cyn derbyn ein llythyr cynnig grant, ac mae’r telerau ac amodau wedi’u llofnodi wedi’u dychwelyd
  • Nid oes grantiau ar gael tuag at godi arian yn gyffredinol nac i gefnogi codi arian ar gyfer grwpiau ac elusennau eraill

Sicrhewch eich bod wedi darllen ac yn deall meini prawf y gronfa a’n safonau gofynnol cyn cwblhau eich cais

Cysylltwch â ni

Gallwch gysylltu â ni ar 02920 379 580 neu anfonwch e-bost i grants@cfiw.org.uk i gael rhagor o wybodaeth.






    Gwnewch yn siŵr eich bod yn gymwys

    Darllenwch y testun canlynol i sicrhau eich bod yn gymwys cyn dechrau'ch cais:

    Parhewch

    Grants

    Gweld y cyfan

    Cronfa True Venture

    Conwy, Gogledd Cymru, Gwynedd

    Cronfa Effaith Cynnal

    Gogledd Cymru, Gwynedd, I gyd a Ynys Môn

    Ein Cymunedau Gyda’n Gilydd – cronfa costau byw

    Abertawe, Blaenau Gwent, Bro Morgannwg

    Cronfa Croeso Cenedl Noddfa

    Abertawe, Blaenau Gwent, Bro Morgannwg