Strategaeth Grantiau Coronavirus

Mae’r pandemig coronafeirws wedi effeithio ar bob un ohonom mewn gwahanol ffyrdd.

Mae’r sector gwirfoddol yn benodol wedi ymateb i’r her o addasu i wahanol ffyrdd o weithio er mwyn helpu i ddiwallu anghenion pobl mewn cymunedau lleol, gyda’r cyllid a roddwyd ar gael yn benodol at y diben hwn.

Wrth i amser fynd heibio, felly mae anghenion yn newid, mae cyllidwyr hefyd yn ystyried sut olwg allai fod ar y dyfodol, a sut y gallant ddarparu’r cyllid cywir i sicrhau y gall y trydydd sector ddod yn gryfach ac yn fwy gwydn gan sicrhau cefnogaeth barhaus mewn cymunedau ymhell i’r dyfodol.

Mae’r strategaeth grantiau hon yn amlinellu sut rydym wedi ymateb hyd yn hyn, a’n bwriad yw rhoi sicrwydd i’r trydydd sector yng Nghymru y byddwn yn gwneud popeth o fewn ein gallu i’w cefnogi wrth i ni symud at normal newydd.

Gyda’n gilydd gallwn adfer yn gryfach.