Yr ydym yn Ariannwr Cyflog Byw

Rydyn ni’n credu, fel rhan annatod o drydydd sector Cymru, fod gennym ran ni bwysig i’w chwarae mewn hybu economiau lleol, o gofio cymaint o bobl sy’n cael eu cyflogi yn y rhain. Drwy roi hwb fel hyn i’r economi, byddwn yn gweld gwell iechyd a llesiant ac yn creu cymunedau cryfach.

Mae hi’n bwysicach ars hyn o bryd nag erioed o’r blaen ein bod ni’n gwneud yn siŵr fod y sefydliadau rydym ni’n eu hariannu’n talu Cyflog Byw i’w holl weithwyr yn hytrach na’r isafswm cyflog. Dyna sydd wedi gyrru ein penderfyniad i ddod yn Ariannwr Cyflog Byw.

Mae Sefydliad Cymunedol Cymru’n ceisio sicrhau fod pob swydd sy’n cael ei hariannu’n rhannol neu’n gyfan gwbl trwy ein grantiau a’n rhaglenni’n talu’r Cyflog Byw a byddwn yn gofyn y cwestiwn fel rhan o’n proses ymgeisio.

Os nad ydych chi’n gallu talu’r Cyflog Byw, byddwn yn gofyn i chi egluro pam ac yn ystyried eich ymateb yn ystod y broses asesu.