Arddangosfeydd Stuart Rendel

I gyd, a Powys

Mae’r rhaglen yma ar gau i geisiadau

Mae'r gronfa hon bellach ar gau. Cofrestrwch i'n Cylchlythyr Grantiau i glywed am gyfleoedd cyllido yn y dyfodol.

Mae Arddangosfeydd Stuart Rendel yn rhoi cymorth ariannol i fyfyrwyr sy’n dechrau eu blwyddyn gyntaf o astudiaethau is-raddedig ym Mhrifysgol Aberystwyth. Caiff ei ddyfarnu o Gronfa Ganolraddol a Thechnegol Sir Drefaldwyn, a gaiff ei rheoli gan y Sefydliad Cymunedol yng Nghymru.

Y grantiau sydd ar gael

  • Mae gwerth yr arddangosfeydd hyd at £1,000 y flwyddyn am hyd at 4 blynedd o’u hastudiaethau is-raddedig.

Dyfernir ceisiadau ar sail perfformiad academaidd (Safon Uwch neu gymwysterau cyfatebol) a’r achos a wnaed dros gymorth yn y ffurflen gais.

Pwy all wneud cais?

Rhaid bod y canlynol yn berthnasol i’r ymgeiswyr:

  • trigolion Sir Drefaldwyn
  • o dan 25 oed
  • wedi mynychu Ysgol Uwchradd yn Sir Drefaldwyn am o leiaf 2 flynedd
  • rhaid i’r cais ddangos angen clir am gymorth ariannol, caledi ariannol neu anghenion cymorth ychwanegol

Sut i wneud cais?

Os ydych yn credu y gallech fod yn gymwys ar gyfer arddangosfa, cwblhewch ffurflen gais.

Gwnewch yn siŵr eich bod yn darllen ac yn deall meini prawf y gronfa cyn cwblhau eich cais.

Arddangosfeydd Stuart Rendel

Lleihau pwysau meddwl myfyriwr prifysgol

Darllen mwy

Gwnewch yn siŵr eich bod yn gymwys

Darllenwch y testun canlynol i sicrhau eich bod yn gymwys cyn dechrau'ch cais:

Parhewch

Grants

Gweld y cyfan

Cronfa Ôl-osod ar gyfer y Dyfodol Cymdeithas Adeiladu’r Principality

Abertawe, Blaenau Gwent, Bro Morgannwg

Cronfa Gwyddoniaeth Gogledd Ddwyrain Cymru – Unigolion

Conwy, Gogledd Cymru, I gyd

Cronfa Waddol Cynnal – Unigolion

Gogledd Cymru, Gwynedd, I gyd a Ynys Môn

Cronfa Caryl & Henry Bettws (Casnewydd)

Casnewydd, De Cymru a I gyd