Cronfa Deddfau Eglwysi Cymru Sir y Fflint

a I gyd

Mae’r rhaglen yma ar gau i geisiadau

Mae gan y gronfa hon 2 ddyddiad cau y flwyddyn sef 31 Ionawr a 31 Gorffennaf.

Mae Cronfa Deddfau Eglwysi Cymru yn Gronfa Ymddiriedolaeth Elusennol a gaiff ei gweinyddu gan Sefydliad Cymunedol Cymru.

Mae’r Gronfa Ymddiriedolaeth wedi’i llywodraethu gan Ddeddf yr Eglwys yng Nghymru 1914. Prif amcan y Gronfa yw rhoi cymorth i grwpiau at ddibenion cymdeithasol, hamdden a dibenion elusennol eraill.

Mae Cronfa Deddfau Eglwysi Cymru Sir y Fflint yn cefnogi’r canlynol:

  • Y gwaith o adfer Eglwysi, Capeli a neuaddau cymunedol/neuaddau pentref mewn sir.
  • Prosiectau sy’n annog y celfyddydau.
  • Gweithgareddau cymdeithasol a hamdden.
  • Diogelu adeiladau hanesyddol.
  • Sefydliadau sy’n gweithio i fynd i’r afael ag anfantais sy’n gysylltiedig â phobl sydd ar incwm isel neu’r rhieni sy’n sâl neu’n anabl.
  • Unigolion sy’n cystadlu ar lefel ranbarthol ym maes chwaraeon ac addysg.

Y grantiau sydd ar gael

  • Gall sefydliadau elusennol wneud cais am grantiau rhwng £100 a £300.
  • Gall unigolion wneud cais am grant o hyd at £200 er mwyn helpu pobl ifanc sy’n cynrychioli’r rhanbarth i lwyddo ym maes Chwaraeon ac Addysg.
  • Gall eglwysi wneud cais o hyd at £500 ar gyfer cynnal a chadw, trwsio ac adfer adeiladwaith yr adeilad yn unig.

Pwy all wneud cais?

  • Sefydliadau nid er elw (er enghraifft elusen cofrestredig, sefydliad corfforedig elusennol, clwb neu gymdeithas anghorfforedig a chwmni buddiannau cymunedol)
  • Sefydliadau sydd wedi’u lleoli yn Sir y Fflint a/neu brosiectau neu weithgareddau sydd wedi’u cynllunio’n benodol i wasanaethu trigolion Sir y Fflint.
  • Eglwysi a chapeli.

Sut i wneud cais?

Gwnewch yn siŵr eich bod yn darllen ac yn deall meini prawf y gronfa cyn cwblhau eich cais.

Cysylltwch â ni

Gallwch gysylltu â ni ar 02920 379 580 neu anfonwch e-bost i grants@cfiw.org.uk i gael rhagor o wybodaeth.






    Grants

    Gweld y cyfan

    Cronfa True Venture

    Conwy, Gogledd Cymru, Gwynedd

    Cronfa Effaith Cynnal

    Gogledd Cymru, Gwynedd, I gyd a Ynys Môn

    Ein Cymunedau Gyda’n Gilydd – cronfa costau byw

    Abertawe, Blaenau Gwent, Bro Morgannwg

    Cronfa Cenedlaethau’r Dyfodol Cymdeithas Adeiladu’r Principality

    Abertawe, Blaenau Gwent, Bro Morgannwg