Cronfa Effaith Cynnal

Gwynedd, I gyd, a Ynys Môn

Mae’r rhaglen yma ar gau i geisiadau

Cronfa Effaith Cynnal yn awr yn gau i geisiadau. Byddem hefyd yn argymell eich bod yn cofrestru i dderbyn ein Cylchlythyr Grantiau i gael y wybodaeth ddiweddaraf am unrhyw ddatblygiadau.

Bydd Cronfa Effaith Cynnal yn cefnogi ysgolion sefydledig a gynhelir gan awdurdodau lleol yng Ngwynedd ac Ynys Môn i hyrwyddo addysg drwy wella’r cyfleusterau Technoleg Gwybodaeth sydd ar gael i fyfyrwyr y tu allan i’r cwricwlwm statudol.

Mae’r gronfa’n gwahodd ceisiadau am brosiectau sy’n gysylltiedig â TG nad ydynt yn rhan o ddyletswyddau cwricwlwm cenedlaethol statudol yr awdurdod lleol ar gyfer addysg.

Grantiau ar gael

  • Gall ysgolion wneud cais am grant o hyd at £10,000

Enghreifftiau o brosiect –

  • Darparu adnodd ychwanegol sy’n gysylltiedig â TG i gefnogi cynnal sesiynau y tu allan i’r ysgol
  • Cefnogi rhieni i sicrhau bod TG yn fwy hygyrch i fyfyrwyr gartref, i gynnwys hyfforddiant, gwybodaeth a chyngor ar gynnal ffiniau TG, cadw’n ddiogel ar-lein, seiberfwlio ac ati

Pwy all ymgeisio?

Ysgolion yn ardal Awdurdod Lleol Gwynedd ac Ynys Môn yn rhedeg prosiectau cysylltiedig â TG sy’n dod y tu allan i’r ddarpariaeth statudol.

Byddwn ni’n blaenoriaethu ysgolion a phrosiectau sy’n cynyddu hygyrchedd i’r rhai sy’n cael eu gwasanaethu (underserved)  neu’n agored i niwed. Mae hyn yn cynnwys prosiectau sy’n cefnogi unigolion o gefndiroedd nodweddiadol gwarchodedig 2010 Deddf Cydraddoldebau ac unigolion o’r cymunedau mwyaf difreintiedig yng Nghymru.

 

 

Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol 2015

Nod Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) yw gwella lles cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol Cymru. Mae’n gofyn i fudiadau yng Nghymru feddwl am effaith hirdymor eu penderfyniadau, i weithio’n well gyda phobl, cymunedau a’i gilydd, ac i atal problemau parhaus fel tlodi, anghydraddoldebau iechyd a newid yn yr hinsawdd.

Rydym yn awyddus i annog ysgolion i feddwl am nid yn unig y gymuned y maent yn ei chefnogi, ond hefyd sut mae eu gwaith yn cyd-fynd â gwasanaethau a gweithgareddau grwpiau a sefydliadau gwirfoddol ac statudol eraill.  Hoffem i chi feddwl sut y gall eich ysgol gydweithio ag eraill i ychwanegu gwerth, gan weithio mewn partneriaeth yn hytrach nag mewn cystadleuaeth.  Yn eich cais, esboniwch eich cynlluniau ar gyfer y dyfodol yn ogystal ag ar gyfer y presennol, hoffem weld sut mae ysgolion yn meddwl am effaith hirdymor eu penderfyniadau i weithio ochr yn ochr ag eraill.

Sut i wneud cais?

Rhaid i ymgeiswyr lenwi ffurflen gais ar-lein y gellir ei gael trwy ein gwefan.

Sylwer:

  • Ni ddyfernir grantiau yn ôl-weithredol h.y. am gostau wedi’i wario cyn derbyn ein llythyr cynnig grant, ac mae’r telerau ac amodau wedi’u llofnodi wedi’u dychwelyd
  • Nid oes grantiau ar gael tuag at godi arian yn gyffredinol nac i gefnogi codi arian i grwpiau ac elusennau eraill
  • Rhaid gwario’r grantiau’n llawn o fewn blwyddyn o dderbyn ein llythyr cynnig

 

Cysylltwch â ni

Gallwch gysylltu â ni ar 02920 379 580 neu anfonwch e-bost i grants@cfiw.org.uk i gael rhagor o wybodaeth.






    Gwnewch yn siŵr eich bod yn gymwys

    Darllenwch y testun canlynol i sicrhau eich bod yn gymwys cyn dechrau'ch cais:

    Parhewch

    Grants

    Gweld y cyfan

    Cronfa True Venture

    Conwy, Gogledd Cymru, Gwynedd

    Ein Cymunedau Gyda’n Gilydd – cronfa costau byw

    Abertawe, Blaenau Gwent, Bro Morgannwg

    Cronfa Cenedlaethau’r Dyfodol Cymdeithas Adeiladu’r Principality

    Abertawe, Blaenau Gwent, Bro Morgannwg

    Cronfa Croeso Cenedl Noddfa

    Abertawe, Blaenau Gwent, Bro Morgannwg