Cronfa Goffa Thomas John Jones

Blaenau Gwent, Caerffili, I gyd, Merthyr Tudful, Powys, Rhondda Cynon Taf, a Sir Fynwy

Mae’r rhaglen yma ar gau i geisiadau

Mae’r gronfa hon yn awr yn agored.
Rydym yn argymell eich bod yn cofrestru i dderbyn ein Cylchlythyr Grantiau i gael y gwybodaeth am grantiau eraill sydd ar gael i chi.

Sefydlwyd Cronfa Goffa Thomas John Jones ym 1944 er mwyn helpu pobl ifanc, yn yr hen Sir Frycheiniog, i astudio a hyfforddi ai gael gwaith yn y diwydiant peirianneg. Mae hen sir Frycheiniog bellach yn cwmpasu ardal De Powys sy’n cynnwys ardaloedd Penderyn sydd bellach yn Rhondda Cynon Taf, Cefn-coed-y-seicmmer, Llwyn-onn, Pontsticill, y Faenor a Threfechan sydd bellach ym Merthyr Tudful, Princetown a Llechryd sydd bellach yng Nghaerffili, Clydach, Llanelly, a Gilwern bellach ym Monmouthshire. Mae’r Gronfa hefyd bellach yn cwmpasu sir gyfan Blaenau Gwent.

Ynghylch Thomas John Jones

Ganwyd Thomas John Jones yn Nantyglo, Sir Fynwy ac mae’n cael ei ystyried fel un o arloeswr system gludiant Prydain. Ym 1919, sefydlodd y Griffin Motor Company ym Mhrynmawr, a oedd yn helpu i fynd â glowyr o’r ardal yn ôl ac ymlaen o Bwll Glo Blaina. Yna, cafodd, datblygodd a goruchwyliodd gyfres o lwybrau bysiau ar draws de-ddwyrain Cymru a Swydd Gaerloyw. Ym 1944, sefydlodd TJ Jones gronfa i helpu pobl ifanc yn yr hen Sir Frycheiniog i astudio ac hyfforddi ar gyfer swyddi uwch mewn diwydiant.

Y grantiau sydd ar gael?

Gall unigolion yn astudio peirianneg neu ar gwrs gydag agwedd peirianneg arwyddocaol ymgeisio am grant o £3,000 y flwyddyn ar gyfer y ffurfiau canlynol o astudio:

  • Lefel israddedig
  • Lefel ôl raddedig
  • HND
  • PhD

Pwy all wneud cais?

Mae grantiau ar gael i fyfyrwyr sy’n byw neu wedi boc mewn ysgolion yn ardaloedd cymwys Sir Frycheiniog neu Blaenau Gwent.

Mae’n rhaid i fyfyrwyr fod yn astudio peirianneg neu gwrs gyda chefndir peirianneg arwyddocaol. Rhaid i’r cais ddangos angen clir am gymorth ariannol, caledi ariannol neu anghenion cymorth ychwanegol

Sut i wneud cais?

Rhaid i bob ymgeisydd lenwi ffurflen gais erbyn y dyddiad cauos byddwch wedi methu’r terfyn amser.

Noder:

  • Bydd yn rhaid i ymgeiswyr sy’n ymgeisio am grant ar gyfer cwrs ar lefel Ôl-raddedig fod wedi derbyn gradd anrhydedd dosbarth 1af neu 2.1.
  • Ni ddylai ymgeiswyr fod yn derbyn arian gan y llywodraeth
  • Dylai ymgeiswyr llwyddiannus hysbysu’r Ymddiriedolwyr gynted â bo modd o unrhyw newid yn eu hamgylchiadau sy’n effeithio ar eu hastudio, megis newid cwrs, methu arholiad neu salwch.
  • Rhoddir blaenoriaeth i ymgeiswyr sy’n dangos orau sut maen nhw’n cyfarfod ag amcanion y Gronfa, ac sy’n dangos orau yr angen ariannol a chymdeithasol y bydd y grant yn eu diwallu.
  • Rhaid i’r cais ddangos angen clir am gymorth ariannol, caledi ariannol neu anghenion cymorth ychwanegol.
  • Ni fydd grantiau’n cael eu rhoi yn ôl weithredol h.y. ar gyfer costau sydd eisoes yn ddyledus cyn derbyn y llythyr cynnig grant a llofnodi’r telerau ac amodau.

Cysylltwch â ni

Gallwch gysylltu â ni ar 02920 379 580 neu anfonwch e-bost i grants@cfiw.org.uk i gael rhagor o wybodaeth.






    Cronfa Goffa Thomas John Jones

    Eich cefnogaeth chi sydd wedi fy helpu i gyrraedd fy mhotensial

    Darllen mwy

    Gwnewch yn siŵr eich bod yn gymwys

    Darllenwch y testun canlynol i sicrhau eich bod yn gymwys cyn dechrau'ch cais:

    Parhewch

    Grants

    Gweld y cyfan

    Cronfa Gwyddoniaeth Gogledd Ddwyrain Cymru – Unigolion

    Conwy, Gogledd Cymru, I gyd

    Cronfa Waddol Cynnal – Unigolion

    Gogledd Cymru, Gwynedd, I gyd a Ynys Môn

    Cronfa Caryl & Henry Bettws (Casnewydd)

    Casnewydd, De Cymru a I gyd

    Cronfa’r Teulu Brown

    Caerdydd, De Cymru a I gyd