Cronfa Goffa Thomas John Jones
Blaenau Gwent, Caerffili, I gyd, Merthyr Tudful, Powys, Rhondda Cynon Taf, a Sir Fynwy
Mae’r rhaglen yma ar agor i geisiadau
Sefydlwyd Cronfa Goffa Thomas John Jones ym 1944 er mwyn helpu pobl ifanc, yn yr hen Sir Frycheiniog, i astudio a hyfforddi ai gael gwaith yn y diwydiant peirianneg. Mae hen sir Frycheiniog bellach yn cwmpasu ardal De Powys sy’n cynnwys ardaloedd Penderyn sydd bellach yn Rhondda Cynon Taf, Cefn-coed-y-seicmmer, Llwyn-onn, Pontsticill, y Faenor a Threfechan sydd bellach ym Merthyr Tudful, Princetown a Llechryd sydd bellach yng Nghaerffili, Clydach, Llanelly, a Gilwern bellach ym Monmouthshire. Mae’r Gronfa hefyd bellach yn cwmpasu sir gyfan Blaenau Gwent.
Ynghylch Thomas John Jones
Ganwyd Thomas John Jones yn Nantyglo, Sir Fynwy ac mae’n cael ei ystyried fel un o arloeswr system gludiant Prydain. Ym 1919, sefydlodd y Griffin Motor Company ym Mhrynmawr, a oedd yn helpu i fynd â glowyr o’r ardal yn ôl ac ymlaen o Bwll Glo Blaina. Yna, cafodd, datblygodd a goruchwyliodd gyfres o lwybrau bysiau ar draws de-ddwyrain Cymru a Swydd Gaerloyw. Ym 1944, sefydlodd TJ Jones gronfa i helpu pobl ifanc yn yr hen Sir Frycheiniog i astudio ac hyfforddi ar gyfer swyddi uwch mewn diwydiant.
Y grantiau sydd ar gael?
Gall unigolion yn astudio peirianneg neu ar gwrs gydag agwedd peirianneg arwyddocaol ymgeisio am grant o £3,000 y flwyddyn ar gyfer y ffurfiau canlynol o astudio:
- Lefel israddedig
- Lefel ôl raddedig
- HND
- PhD
Pwy all wneud cais?
Mae grantiau ar gael i fyfyrwyr sy’n byw neu wedi boc mewn ysgolion yn ardaloedd cymwys Sir Frycheiniog neu Blaenau Gwent.
Mae’n rhaid i fyfyrwyr fod yn astudio peirianneg neu gwrs gyda chefndir peirianneg arwyddocaol. Rhaid i’r cais ddangos angen clir am gymorth ariannol, caledi ariannol neu anghenion cymorth ychwanegol
Sut i wneud cais?
Rhaid i bob ymgeisydd lenwi ffurflen gais erbyn y dyddiad cau.
Ymgeisiwch nawrCysylltwch â ni
Gallwch gysylltu â ni ar 02920 379 580 neu anfonwch e-bost i grants@cfiw.org.uk i gael rhagor o wybodaeth.

Eich cefnogaeth chi sydd wedi fy helpu i gyrraedd fy mhotensial
Darllen mwyGwnewch yn siŵr eich bod yn gymwys
Darllenwch y testun canlynol i sicrhau eich bod yn gymwys cyn dechrau'ch cais: