Cronfa Waddol Gymunedol Sir Ddinbych

I gyd, a Sir Ddinbych

Mae’r rhaglen yma ar agor i geisiadau

Mae ceisiadau ar agor i grwpiau . Mae'r gronfa hon yn cau ar Dydd Llun 16 Mis Rhagfyr 2024 am 12pm (canolddydd).

Nod Cronfa Waddol Gymunedol Sir Ddinbych yw ariannu mentrau addysgol. Mae’r gronfa yn chwilio am geisiadau gan y canlynol:

  • Prosiectau sy’n cefnogi datblygiad addysgol plant o oedran ysgol a phobl ifanc
  • Prosiectau sy’n cefnogi datblygiad addysgol plant yn y blynyddoedd cynnar
  • Prosiectau sydd wedi’u lleoli mewn ysgolion sy’n cefnogi materion iechyd a ffyrdd iach o fyw
  • Prosiectau cyflawni addysgol gan gynnwys dysgu gydol oes
  • Prosiectau cynhwysiant addysgol gyda chymorth i fyfyrwyr unigol talentog ar ffurf ysgoloriaethau, cymorth teithio, chwaraeon, gwobrau ar gyfer cyrhaeddiad a deunyddiau addysgol

Grantiau ar gael

  • Gall sefydliadau wneud cais am grantiau o hyd at £1,000 y flwyddyn

Pwy all wneud cais?

  • Grwpiau a sefydliadau yn ardal Awdurdod Lleol Sir Dinbych sy’n rhedeg prosiectau sydd y tu allan i ddarpariaeth statudol. (E.e. clybiau ar ôl ysgol, clybiau brecwast, prosiectau garddio ac ati). Rhoddir blaenoriaeth i ymgeiswyr sy’n gallu dangos sut yn union y byddant yn bodloni amcanion a blaenoriaethau’r Gronfa, ac nad ydynt wedi cael cymorth gan y Gronfa hon o’r blaen.

Sut i wneud cais?

Rhaid i bob ymgeisydd gwblhau ffurflen gais sydd ar gael ar ein gwefan.

Cofiwch:

  • Ni roddir grantiau’n ôl-weithredol h.y. ar gyfer costau sydd eisoes wedi codi cyn derbyn ein.
  • Llythyr yn cynnig grant a chyn llofnodi a dychwelyd yr amodau a thelerau.
  • Nid yw grantiau ar gael i gefnogi codi arian ar ran grwpiau ac elusennau eraill.
  • Rhaid gwario’r grant yn llawn o fewn un flwyddyn o dderbyn ein llythyr o gynnig.
  • Rhaid i’r cais ddangos angen clir am gymorth ariannol, caledi ariannol neu anghenion cymorth ychwanegol.
Ymgeisiwch nawr

Gwnewch yn siŵr eich bod yn darllen y safon ddisgwyliedig cyn gwneud cais

Dyma’r safonau gofynnol mae’n rhaid i sefydliad eu cyfarfod er mwyn bod yn gymwys i gael arian gan Sefydliad Cymunedol Cymru.

Cliciwch yma
An icon of a clipboard with ticks.
Cronfa Waddol Gymunedol Sir Ddinbych

Help llaw i 400 o fabolgampwyr

Darllen mwy

Gwnewch yn siŵr eich bod yn gymwys

Darllenwch y testun canlynol i sicrhau eich bod yn gymwys cyn dechrau'ch cais:

Parhewch

Grants

Gweld y cyfan

Cronfa Waddol Cynnal

Gogledd Cymru, Gwynedd, I gyd a Ynys Môn

Cronfa Ôl-osod ar gyfer y Dyfodol Cymdeithas Adeiladu’r Principality

Abertawe, Blaenau Gwent, Bro Morgannwg

Cronfa Gwyddoniaeth Gogledd Ddwyrain Cymru – Unigolion

Conwy, Gogledd Cymru, I gyd

Cronfa Waddol Cynnal – Unigolion

Gogledd Cymru, Gwynedd, I gyd a Ynys Môn