Cronfa Waddol Gymunedol Sir Ddinbych
I gyd, a Sir Ddinbych
Mae’r rhaglen yma ar gau i geisiadau
Nod Cronfa Waddol Gymunedol Sir Ddinbych yw ariannu mentrau addysgol. Mae’r gronfa yn chwilio am geisiadau gan y canlynol:
- Prosiectau sy’n cefnogi datblygiad addysgol plant o oedran ysgol a phobl ifanc
- Prosiectau sy’n cefnogi datblygiad addysgol plant yn y blynyddoedd cynnar
- Prosiectau sydd wedi’u lleoli mewn ysgolion sy’n cefnogi materion iechyd a ffyrdd iach o fyw
- Prosiectau cyflawni addysgol gan gynnwys dysgu gydol oes
- Prosiectau cynhwysiant addysgol gyda chymorth i fyfyrwyr unigol talentog ar ffurf ysgoloriaethau, cymorth teithio, chwaraeon, gwobrau ar gyfer cyrhaeddiad a deunyddiau addysgol
Yn 2020 cyhoeddodd Sefydliad Cymunedol Cymru ganfyddiadau ymchwil a wnaed gyda mwy na 100 o grwpiau cymunedol ar draws Cymru. Amlygodd ein hadroddiad Yn Uchel ac yn Groch fod elusennau a grwpiau cymunedol yng Nghymru eisiau i arianwyr roi blaenoriaeth i arian craidd ac i bartneriaethau tymor hirach. Rydym wedi defnyddio’r hyn a ddysgwyd yn yr adroddiad hwn i’n helpu i ffurfio ein Cronfa Waddol Gymunedol Sir Ddinbych ac i ddangos i grwpiau ein bod yn credu yn eu dibenion craidd a’n bod ni eisiau eu cefnogi i weithio’n fwy effeithiol yn eu cymunedau yn y tymor hirach.
Rydym yn cydnabod pa mor bwysig yw bod grwpiau’n allu cynllunio ar gyfer y dyfodol a bod cael sicrwydd fod arian ar gael yn gallu rhoi’r hyder a sicrwydd i chi i ddatblygu’ch prosiect dros y tymor hir. Erbyn hyn, mae Cronfa Waddol Gymunedol Sir Ddinbych yn cynnig cyfle i grwpiau ymgeisio am arian am sawl blwyddyn, hyd at dair blynedd, ond bydd hefyd yn dal ati i gynnig arian ar gyfer prosiectau un flwyddyn neu eitemau cyfalaf bychain.
Rydym yn gobeithio gallu dyrannu o leiaf un grant tair blynedd y flwyddyn. I gael eich ystyried ar gyfer grant tair blynedd, dylech gwblhau’r adran ychwanegol ar y ffurflen gais i ddangos sut rydych yn bwriadu datblygu’ch prosiect dros y cyfnod ariannu yr ymgeisir amdano. D.S. Bydd eich cais yn dal i gael ei ystyried ar gyfer cyllid un flwyddyn os nad ydych yn llwyddiannus am grant tair blynedd.
Rydym hefyd yn cydnabod ei bod yn anodd cael arian craidd, yn enwedig yn y tymor hirach. Erbyn hyn, mae grwpiau’n gallu ymgeisio am arian tuag at gostau craidd am hyd at dair blynedd, cyn belled bod y grŵp yn gallu cyflwyno cyfrifon ar gyfer o leiaf y 12 mis diwethaf a bod y swm yr ymgeisir amdano’n llai na 50% o’r trosiant blynyddol. Er enghraifft i ymgeisio am grant o £1,000 y flwyddyn, dylai’ch incwm blynyddol fod yn £2,000 o leiaf.
Y grantiau sydd ar gael
- Gall unigolion wneud cais am grantiau o hyd at £500. Rhaid i’r cais ddangos angen clir am gymorth ariannol, caledi ariannol neu anghenion cymorth ychwanegol
- Gall sefydliadau wneud cais am grantiau o hyd at £1,000
Pwy all wneud cais?
- Myfyrwyr hyd at a chan gynnwys 25 oed sy’n un o drigolion llawn amser ardal Awdurdod Lleol Sir Ddinbych ar hyn o bryd, ar yr amod nad yw’r mentrau yn dod o dan ddarpariaeth statudol.
- Grwpiau a sefydliadau yn ardal Awdurdod Lleol Sir Dinbych sy’n rhedeg prosiectau sydd y tu allan i ddarpariaeth statudol. (E.e. clybiau ar ôl ysgol, clybiau brecwast, prosiectau garddio ac ati)
Rhoddir blaenoriaeth i ymgeiswyr sy’n gallu dangos sut yn union y byddant yn bodloni amcanion a blaenoriaethau’r Gronfa, ac nad ydynt wedi cael cymorth gan y Gronfa hon o’r blaen.
Sut i wneud cais?
Gwnewch yn siŵr eich bod yn darllen ac yn deall meini prawf y gronfa cyn cwblhau eich cais.

Help llaw i 400 o fabolgampwyr
Darllen mwyGwnewch yn siŵr eich bod yn gymwys
Darllenwch y testun canlynol i sicrhau eich bod yn gymwys cyn dechrau'ch cais: