Ein Cymunedau Gyda’n Gilydd – cronfa costau byw
Abertawe, Blaenau Gwent, Bro Morgannwg, Caerffili, Casnewydd, Castell-nedd Port Talbot, Ceredigion, Conwy, Dinas Caerdydd, Gwynedd, I gyd, Merthyr Tudful, Pen-y-bont ar Ogwr, Powys, Rhondda Cynon Taf, Sir Ddinbych, Sir Fynwy, Sir Gar, Sir Penfro, Sir y Fflint, Torfaen, Wrecsam, a Ynys Môn
Mae’r rhaglen yma ar agor i geisiadau
Rydym yn gwybod bod y trydydd sector yng Nghymru wedi gweld cynnydd enfawr yn y galw am wasanaethau, o ganlyniad i’r cynnydd mewn costau byw. Y trydydd sector yw’r glud sy’n dal ein cymunedau ynghyd. Mae’n darparu cymorth parhaus pan mae gwasanaethau statudol yn dod i ben, ac mae’n hyblyg ac yn addasadwy i anghenion newidiol pobl leol. Ond nid yw’r sector wedi dianc rhag effaith costau cynyddol fel rhent, cyfleustodau a staffio, sydd hefyd yn effeithio’n uniongyrchol ar y rhai y mae’n ymdrechu i’w cefnogi.
Yn gynharach eleni, mewn ymateb i’r argyfwng costau byw, gweithiodd Sefydliad Cymunedol Cymru mewn partneriaeth â’r cwmni cyfryngau Newsquest i lansio Ein Cymunedau Ynghyd – Apêl Argyfwng Costau Byw. Arweiniodd rownd gyntaf y cyllid at ddyfarnu dros £1 miliwn o gyllid i grwpiau cymunedol ac elusennau ledled Cymru, sy’n rhoi cymorth uniongyrchol i bobl sy’n wynebu effeithiau andwyol yr argyfwng costau byw. Fodd bynnag, rydym yn gwybod fod llawer mwy y gellir ei wneud o hyd yn wyneb costau cynyddol, a thlodi ac ansicrwydd cynyddol, sydd ond yn gwaethygu yn ystod misoedd y Gaeaf.
Mae Sefydliad Cymunedol Cymru wedi partneru gyda Newsquest eto i ailagor y gronfa i geisiadau am rownd arall o gyllid. Wrth i ni ailagor y gronfa, mae’n bwysig ein bod yn rheoli disgwyliadau’r grwpiau sy’n ystyried gwneud cais. Darllenwch y meini prawf canlynol yn llawn cyn i chi benderfynu a ydych am wneud cais.
Bydd y grwpiau rydym eisiau eu cefnogi yn darparu gwasanaethau a gweithgareddau a fydd yn gwneud gwahaniaeth enfawr i deuluoedd ac unigolion lleol sy’n wynebu argyfwng a chaledi oherwydd yr argyfwng costau byw. Bwriedir i’r cyllid fod yn fwy na dim ond ‘plastr glynu’, a dyna pam rydym eisiau cynnig cymorth tymor hwy i weithgareddau grŵp a gwasanaethau. Rydym yn awyddus i gefnogi gweithgareddau sy’n cael eu darparu o leiaf bob wythnos, ac sy’n galluogi pobl i ddiweddu eu hwythnos gydag ychydig mwy o arian yn eu pocedi, i’w helpu i reoli eu gwariant yn well. Byddem yn croesawu ceisiadau gan sefydliadau sy’n cynnal prosiectau sy’n cynnig cymorth i unigolion o ran llesiant, grantiau a chyngor ar fudd-daliadau, neu gymorth i gael dyled dan reolaeth.
Ni allwn ystyried:
- ceisiadau i gefnogi costau craidd canolfan gymunedol/clwb chwaraeon/clwb ieuenctid/theatr neu glwb drama ac ati lle NAD ydynt yn darparu gwasanaethau i fynd i’r afael â’r argyfwng costau byw
- ceisiadau gan grwpiau sy’n darparu bwrsariaethau/grantiau i unigolion neu deuluoedd
- ceisiadau gan sefydliadau sy’n darparu cymorth iechyd meddwl neu gwnsela
- ceisiadau sy’n gofyn am gymorth i dalu am weithgareddau i aelodau
Y grantiau sydd ar gael
Yn ogystal, gan mai dyma’r ail rownd o gyllid, byddwn yn blaenoriaethu’r grwpiau/gwasanaethau canlynol, i sicrhau bod gennym gynrychiolaeth dda ledled Cymru ac ar draws y materion amrywiol y mae’r argyfwng hwn yn effeithio arnynt:
- Pantrïoedd bwyd cymunedol a/neu wasanaethau sy’n cynnig cymorth i goginio prydau rhad yn hytrach na darpariaeth parseli bwyd/banc bwyd
- Grwpiau sy’n rhoi cymorth gyda thlodi tanwydd
- Grwpiau sy’n darparu cyngor ar ddyledion/cyllidebu ariannol a mynediad at gyngor ynghylch budd-daliadau lles
- Grwpiau sy’n cynnig gweithgareddau (yn mynd i’r afael â’r argyfwng costau byw) o leiaf unwaith yr wythnos
- Grwpiau sy’n cefnogi teuluoedd sy’n gweithio sydd ar incwm isel e.e. darparu prydau poeth mewn clwb y tu allan i’r ysgol
- Grwpiau sydd wedi’u lleoli mewn ardaloedd o amddifadedd uchel yng Nghymru (bydd hyn yn seiliedig ar Fynegai Amddifadedd Lluosog Cymru) yn ogystal â’r rhai sy’n cefnogi unigolion o gefndiroedd nodweddion gwarchodedig fel y’u diffinnir yn Neddf Cydraddoldeb 2010
- Grwpiau sy’n rhedeg prosiectau cymwys sydd wedi’u lleoli yn yr ardaloedd canlynol sydd â chynrychiolaeth isel, yn cynnwys: Gwynedd, Ynys Môn, Wrecsam, Conwy, Ceredigion, Powys, Sir Benfro, Torfaen, Pen-y-bont ar Ogwr, Sir Fynwy, Bro Morgannwg
Bydd y grantiau’n talu costau craidd* a/neu brosiect grwpiau sy’n gallu dangos eu bod yn darparu gwasanaethau i’r gymuned i helpu i liniaru sefyllfaoedd o argyfwng a chaledi. Gall grwpiau wneud cais am grant o hyd at £5,000 y flwyddyn am hyd at 3 blynedd. Ni ddylai grwpiau a sefydliadau fod ag incwm sy’n fwy na £500,000 yn y flwyddyn ariannol ddiwethaf yr adroddwyd arni. Gyda “bras” rydym yn golygu o fewn 10% yn uwch, ond byddai’n well gennym pe baech yn trefnu galwad gyda Swyddog Grantiau i drafod eich sefyllfa ariannol cyn gwneud cais os ydych yn ansicr.
Sut i wneud cais?
Mae’r gronfa hon yn agored i elusennau a sefydliadau cymunedol sydd â chyfansoddiad, sy’n cefnogi pobl yn y gymuned leol o ganlyniad uniongyrchol i’r argyfwng costau byw.
- Grwpiau Cyfansoddedig
- Elusennau Cofrestredig a Sefydliadau Corfforedig Elusennol
- Cwmnïau Cyfyngedig drwy Warant (Nid er elw preifat)
- Cwmnïau Buddiannau Cymunedol
- Mentrau Cymdeithasol
Noder:
*Nid yw’r gronfa hon yn gronfa generig. Wrth hyn rydym yn golygu na allwn gynnig grantiau i grwpiau NAD yw cymorth ar gyfer pobl sy’n wynebu caledi a/neu argyfwng oherwydd costau byw yn ffocws allweddol i’w gwaith. Mae hyn yn cynnwys ceisiadau am gyllid costau craidd, y gellir ond eu hystyried os mai prif ffocws y cymorth a ddarperir yw mynd i’r afael yn uniongyrchol â’r argyfwng costau byw yn y gymuned leol.
- Ni chaiff grantiau eu dyfarnu os bydd y gwaith eisoes wedi’i gyflawni h.y. am costau yr aed iddynt cyn derbyn ein llythyr yn cynnig grant, a chael y telerau a’r amodau wedi’u llofnodi a’u dychwelyd.
- Nid yw’r grantiau ar gael tuag at godi arian cyffredinol nac i gefnogi codi arian ar gyfer grwpiau ac elusennau eraill.
Gwnewch yn siŵr eich bod wedi darllen a deall meini prawf y gronfa cyn cwblhau eich cais.
Nid yw grwpiau sydd â grantiau gweithredol gan Ein Cymunedau Ynghyd – Cronfa Costau Byw yn gymwys i wneud cais am gyllid pellach o’r gronfa hon.
Gwnewch yn siŵr eich bod yn gymwys
Darllenwch y testun canlynol i sicrhau eich bod yn gymwys cyn dechrau'ch cais: