Cronfa True Venture
Mae True Venture ar daith i ysbrydoli a chefnogi athletwyr ifanc yng Ngogledd Cymru drwy wella mynediad at gyfleoedd cadarnhaol drwy chwaraeon. Maen nhw’n credu bod pob plentyn yn haeddu cyfle cyfartal i gymryd rhan a llwyddo mewn chwaraeon.
Sefydlwyd y Gronfa True Venture mewn partneriaeth â True Venture Foundation i gynnig cymorth ychwanegol i glybiau chwaraeon cymunedol bach sy’n gweithio ledled Gogledd Cymru gyda phlant a phobl ifanc i’w hannog i roi cynnig ar chwaraeon, caru chwaraeon a pharhau i wneud chwaraeon.
Bydd y gronfa’n blaenoriaethu grwpiau sy’n darparu cyfleoedd chwaraeon unigol * fel athletau, nofio, bocsio, beicio ac ati ac aml-chwaraeon fel triathlon ac ati, yn hytrach na gweithgareddau chwaraeon grŵp/tîm fel rygbi, pêl-droed, hoci ac ati.
Anogir grwpiau cymunedol lleol yn y trydydd sector ar draws Ynys Môn, Gwynedd, Conwy, Sir y Fflint, Sir Ddinbych a/neu Wrecsam i wneud cais am gyllid i gefnogi eu gwaith gyda phlant a phobl ifanc.
Dechrau torri record
Cychwynnwyd y gronfa gan ymgais arloesol yn y byd gan yr athletwr dygnwch Sean Conway, a osododd record byd newydd trwy gwblhau 105 o driathlon pellter hir mewn 105 diwrnod ym mis Gorffennaf 2023.
Darllen mwy![Sean Conway Day 102_Run_credit_Justin Fletcher_Photography_3283 Cronfa True Venture](https://communityfoundationwales.org.uk/wp-content/uploads/2024/02/Sean-Conway-Day-102_Run_credit_Justin-Fletcher_Photography_3283-e1707312990528.jpg)