Lleolir Canolfan Madog ar gyfer Astudiaethau Cymreig

Rydym wrth ein bodd o ddatgelu’r pum mudiad trysor fydd yn derbyn cyllid drwy’n Cylch Rhoi Byd-eang cyntaf erioed.  Dengys y pum trysor hyn yr ystod ardderchog o ddiwylliant a threftadaeth Gymreig a ddathlir ledled y byd.

Lleolir Canolfan Madog ar gyfer Astudiaethau Cymreig ym Mhrifysgol Rio Grande a Choleg Cymunedol Rio Grande yn Ohio, man hanfodol ym maes y Gymraeg yng Ngogledd America.  Mae Canolfan Madog yn meithrin dealltwriaeth a gwerthfawrogiad o dreftadaeth Gymreig a diwylliant Cymreig cyfoes.
Mae gan lawer o drefi yn y rhanbarth olion o ddylanwad Cymreig nodedig, drwy enwau lleoedd, pensaernïaeth ac iaith.  Mae’r llyfrgell ar-lein yn gartref i amrywiaeth o ffuglen Gymreig, a hefyd i lyfrau ar gerddoriaeth a ffilmiau Cymreig, ymfudo a hanes lleol am Gymry, hanesion teuluoedd a gwybodaeth am eglwysi Cymreig.
Mae gweithgareddau a rhaglenni Canolfan Madog yn helpu i gynnal a gwarchod y Gymraeg, y diwylliant a’r celfyddydau Cymreig, ac mae’n darparu lle i academyddion ymchwilio’n rhagor i’r cysylltiad Cymreig-Americanaidd, a hyrwyddo gweithgareddau Cymreig-Americanaidd lleol.
Mae’r amgueddfa sy’n ffurfio rhan o’r ganolfan wedi’i lleoli ar hyd y Welsh Scenic Byway, a sefydlwyd i nodi’r safleoedd hanesyddol allweddol o gyfnewid Cymreig-Americanaidd.  Bydd arian a godwyd drwy’r Cylch Rhoi Byd-eang yn cael ei ddefnyddio i dalu am fwy o ddeunyddiau dwyieithog fydd yn darparu rhagor o wybodaeth hanesyddol i ymwelwyr â’r Ganolfan.  Un o uchelgeisiau Canolfan Madog yw magu mwy o ddiddordeb yn hanes Cymreig y rhanbarth drwy osod arwyddion strydoedd dwyieithog yn nhref Oak Hill gerllaw.
Mae’r Cylch Rhoi’n ffordd newydd o roi yn ôl i Gymru, gan uno rhwydwaith byd-eang o roddwyr i ddangos eu cariad at Gymru.
Rhoddwch heddiw drwy fynd i Cylch Rhoi Byd-eang JustGiving a chefnogwch y mudiadau ‘Trysorau Cymru’ hyn sy’n gweithio mewn cymunedau o amgylch y byd.
Bydd pob rhodd a dderbynnir hyd at ein targed o £5,000 cyntaf yn derbyn arian cyfatebol bunt am bunt, a chaiff ei rannu’n gyfartal rhwng y pum trysor, diolch i Sefydliad Pears.  Unwaith y bydd y targed hwn wedi’i gyrraedd, caiff yr holl roddion ychwanegol eu rhoi i’n gwaddol yn Cronfa i Gymru i gefnogi cymunedau lleol ledled Cymru, a bydd hefyd yn derbyn arian cyfatebol, diolch i’n Her Arian Cyfatebol Loteri Fawr Cronfa i Gymru.

News

Gweld y cyfan
Anrhydeddu sêr Hollywood a dyngarwr lleol am eu cyfraniadau eithriadol i gymunedau Gogledd Cymru

Anrhydeddu sêr Hollywood a dyngarwr lleol am eu cyfraniadau eithriadol i gymunedau Gogledd Cymru

Y galon mor bwysig a’r meddwl wrth greu ymddiriedolwyr ymroddedig

Y galon mor bwysig a’r meddwl wrth greu ymddiriedolwyr ymroddedig

Pam mae eich stori yn bwysig

Pam mae eich stori yn bwysig

Gymaint mwy na jest adroddiad arall…

Gymaint mwy na jest adroddiad arall…