Mae Cronfa Fuddsoddi Gymunedol Trivallis wedi’i lansio
Mae Sefydliad Cymunedol Cymru wedi ymuno gyda Trivallis i agor Cronfa Fuddsoddi Gymunedol Trivallis.
Sefydliad Cymunedol Cymru fydd yn gweinyddu’r gronfa ar ran Trivallis, gan ddyfarnu grantiau o hyd at £6,000 i grwpiau tenantiaid, mentrau cymdeithasol, elusennau yn y gymuned a sefydliadau’n cefnogi pobl yng nghymunedau Trivallis yn Rhondda Cynon Taf.
Bydd prosiectau sy’n cefnogi unrhyw un o’r meysydd canlynol yn gallu ymgeisio am grantiau Llwybr Carlam o hyd at £1,000 a Grantiau mawr o rhwng £1,001 a £5,000:
- Cynhwysedd Cymdeithasol
- Iechyd a Llesiant
- Dysgu a Chyflogadwyedd
- Gwelliannau amgylcheddol cynaliadwy
Mae Trivallis yn landlord cymdeithasol cofrestredig sydd wedi’i ymrwymo i newid bywydau pobl a chymunedau er gwell ledled Rhondda Cynon Taf.
Elusen annibynnol yw Sefydliad Cymunedol Cymru sy’n gweithio gyda’i chefnogwyr a’i phartneriaid hael i ariannu prosiectau lleol sy’n helpu i gryfhau cymunedau ym mhob rhan o Gymru.
Bydd y bartneriaeth hon yn helpu cymunedau Rhondda Cynon Taf i ffynnu ac, erbyn hyn, mae’r cymunedau angen y gefnogaeth fwy nag erioed ar ôl effeithiau dinistriol y Pandemig Coronafeirws.
Meddai Andrea Powell, Cyfarwyddwr Rhaglenni yn Sefydliad Cymunedol Cymru:
“Rydyn ni’n hynod gyffrous yn partneru gyda Trivallis i reoli ac i hyrwyddo Cronfa Fuddsoddi Gymunedol Trivallis.
Rydyn ni hefyd yn edrych ymlaen at weithio gyda grwpiau yn Rhondda Cynon Taf i ddeall yn well y cyfleoedd a’r heriau maen nhw’n eu hwynebu ac i’w helpu i wella bywydau pobl leol a datrys problemau sydd mor bwysig i’w cymunedau.”
Meddai Tracey Cooke, uwch reolwr partneriaethau yn Trivallis:
“Mae’r pandemig COVID-19 wirioneddol wedi dangos pa mor bwysig yw bod cymunedau’n gweithio gyda’i gilydd, yn cefnogi’i gilydd ac yn cadw’i gilydd yn ddiogel.
Yn Trivallis rydym yn angerddol i fod yn fwy na landlord ac yn gweithio’n galed i roi rhywbeth yn ôl i’n cymunedau.
Rydyn ni eisiau adeiladu ar yr ysbryd cymunedol anhygoel sydd gennym yn ne Cymru a chefnogi pobl i fyw bywydau hapus a ffyniannus.”
Mae Cronfa Fuddsoddi Gymunedol Trivallis yn agor ddydd Mawrth 4 Mai 2021. Cliciwch yma i ddarllen mwy am y gronfa ac i ymgeisio am grant.